Seicoleg Gymdeithasol
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Bydd Seicoleg Gymdeithasol yn anelu at ddisgrifio ac esbonio'r ysgogiad y tu ôl i'n rhyngweithio cymdeithasol.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i archwilio egwyddorion seicoleg gymdeithasol ac i osod pwynt cyfeirio i ddeall yr ymddygiadau rydym yn gyfarwydd â nhw.
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymdeithas ac sy'n barod i ddarllen, trafod a meddwl.
Gall y cwrs hefyd eich helpu i fynd yn eich blaen i lwybr at radd mewn gofal iechyd.
Dysgu ac addysgu
Bydd darlithoedd, dadleuon yn y dosbarth, gweithdai grŵp, cyflwyniadau seminar a deunydd fideo. Bydd y pwyslais ar ddysgu’n weithredol, i’ch helpu i ddatblygu a deall mater y pwnc a’i berthnasedd i’r byd go iawn.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.
Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y cewch brofion dosbarth.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs, neu lunio portffolio. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.
Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Deunydd darllen awgrymedig
Nid oes llyfr cwrs ar gyfer y cwrs hwn. Bydd eich tiwtor yn awgrymu amrywiaeth o lyfrau y gallwch eu benthyg o'r llyfrgell.
Gallech fod eisiau prynu llyfrau ond gall y rheini fod yn rhai ail law, ac efallai yr hoffech rannu gyda myfyrwyr eraill
Mae'r rhestr lyfrau a ganlyn yn rhestr o awgrymiadau allai fod o gymorth wrth roi ambell syniad i chi, os ydych eisiau darllen ychydig cyn i'r cwrs ddechrau, ond rhwydd hynt i chi ddarllen ynghylch y pwnc a dilyn eich diddordebau eich hun.
- Mcllveen R. & Gross R. (1998) Social Psychology, Llundain: Hodder & Stoughton Aronson E.,
- Wilson T.D. & Akert R.M. (1997) (ail argraffiad) Social Psychology, Harlow:
- Longman ATKINSON R. ATKINSON, R. SMITH. R.E. A BERN D.J. (11eg argraffiad 1994 neu'n hwyrach) Introduction to Psychology.Llundain:Harcourt Brace
- Jovanovich Beck, A. T., M.D, (1989) Love Is Never Enough: How Couples Can Overcome Misunderstandings, Resolve Conflicts, and Solve Relationship Problems Through Cognitive Therapy. Efrog Newydd: Harper Perennial
- GLIETMAN H. (2002) Psychology 5ed argraffiad. Efrog Newydd: WW
- Norton Wright R. (1994) The Moral Animal. Llundain: Abacus
- HAYES N.(1993) Principles of Social Psychology, Hove: Lawrence Erlhbaum Associates.
- www.alleydog.com – Safle gwybodaeth i fyfyrwyr
- www.psychology.org/ – Gwyddoniadur Seicoleg
- www.socialpsychology.org – Gwefan gyffredinol Seicoleg Gymdeithasol
Adnoddau dysgu eraill
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.