Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Synhwyraidd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Cewch fywiogi a chyfoethogi eich ysgrifennu creadigol ar unwaith drwy ddatblygu disgrifiad drwy'r synhwyrau, gan eu defnyddio fel porth i ffurf ac fel modd o gysylltu â darllenydd.

Dysgwch am y syniad o'r saith synnwyr, arbrofi gyda gwahanol ffurfiau a thechnegau a darganfod mwy am bŵer disgrifiad synhwyraidd byw.

Ar hyd y ffordd, cawn hwyl gydag ymarferion gwrando, cyffwrdd gwrthrychau, dilyn y cysylltiadau rhwng blas a chof, archwilio cysylltiadau arogleuon da a drwg, a mwy . Byddwch yn archwilio technegau ymwybyddiaeth ofalgar fel modd o ddatblygu ein straeon, a bydd crefftwyr geiriau â diddordeb yn cael gwybod am adnoddau ac antholegwyr sy'n gysylltiedig ag ysgrifennu synhwyraidd, er bod croeso i awduron o bob lefel a phrofiad i'r cwrs hwn, gan gynnwys dechreuwyr llwyr.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau.

Dyma’r pynciau a allai fod o dan sylw:

  • Cysyniadau allweddol ysgrifennu synhwyraidd ac ysgrifennu creadigol
  • Cyfoethogi ysgrifennu creadigol drwy ddisgrifiadau synhwyraidd
  • Technegau ymwybyddiaeth ofalgar ac ysgrifennu synhwyraidd
  • Ymarferion gwrando
  • Blas a chof

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Byddwch yn cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eich proses eich hunain. Bydd y portffolio yn cynnwys tua 1500 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch yn cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen ymlaen llaw.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.