Aberthu i'r Duwiau: Chwedlau, Archaeoleg, a Chrefydd y Groegiaid Hynafol
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Byddwn yn trin a thrafod archaeoleg crefydd y Groegiaid Hynafol o'r cyfnod cynhanes i'r cyfnod Helenistaidd (c.3200-c.32 Cyn y Cyfnod Cyffredin), gan ymchwilio i’r berthynas rhwng y chwedlau a'r dystiolaeth a geir mewn cofnodion archeolegol.
Byddwn yn ystyried dadleuon hen a newydd fel ei gilydd ynghylch datblygiad a pharhad arferion a chredoau crefyddol, gan geisio deall crefydd y Groegiaid Hynafol.
Byddwch yn dod i ddeall tystiolaeth archeolegol sydd wedi goroesi o’r cyfnod, gan ddehongli hyn ochr yn ochr â ffynonellau llenyddol o'r cyfnod clasurol (510-323 Cyn y Cyfnod Cyffredin). Wrth dreiddio’n ddwfn i grefydd y Groegiaid Hynafol yn y modd hwn, byddwn yn trin a thrafod y dystiolaeth sy’n amlwg mewn pensaernïaeth gyhoeddus a phreifat, mewn celf megis murluniau, crochenwaith, seliau, ffigurynnau, a cherfluniau, yn ogystal â thystiolaeth a geir o gladdedigaethau’r Groegiaid Hynafol.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl mewn naw sesiwn dwy awr o hyd ar lein. Bydd y sesiynau'n gymysgedd o ddarlithoedd, adnoddau clyweledol, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl. Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr hefyd ddarllen deunydd perthnasol wedi’i argraffu a defnyddio hynny’n sail ar gyfer cyfrannu yn y dosbarth. Bydd trafodaethau a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ar Dysgu Canolog.
Maes Llafur:
- Cyflwyniad: Archaeoleg Crefydd: Theori ac Ymarfer
- Crefydd yr Oes Efydd
- Arferion a Chredoau Crefyddol - Y Cysondebau a’r Anghysondebau
- Groeg Hynafol: Temlau a Chysegrfannau
- Chwedlau, Duwiau, Gwyliau ac Aberthu
- Y Polis, Crefydd a’r Gymdeithas
- Crefydd a Rhywedd
- Y Cofnod Claddu: Arferion a Chredoau
- Syniadau a Dadleuon Newydd am Grefydd yng Ngwlad Groeg Glasurol
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:
- adolygiad beirniadol byr
- traethawd 1000 gair.
Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.
Deunydd darllen awgrymedig
- Burkert, W. 1985. Greek Religion: Archaic and Classical. Rhydychen: Blackwell
- Insoll, T. 2004. Archaeology, Ritual, Religion. Efrog Newydd: Routledge
- Mikalson, J. D. 2010. Ancient Greek Religion. 2il Argraffiad. Chichester: Wiley-Blackwell
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.