Rwseg i Ddechreuwyr I
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae’r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr llwyr, a chaiff myfyrwyr eu cyflwyno i Rwsieg a diwylliant Rwsia.
Bydd myfyrwyr yn dysgu darllen y wyddor Rwsiaidd ac ymarfer sgwrsio sylfaenol a strwythurau iaith.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n ddechreuwyr llwyr o ran Rwsieg, ac sy'n dymuno gallu darllen yr arwyddion/mapiau/cynlluniau'r metro a chynnal sgwrs sylfaenol iawn wrth deithio i Rwsia.
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:
- Siarad amdanoch eich hun a'ch teulu.
- Gramadeg: yr wyddor, ynganiad – cytseiniaid lleisiol a dilais
- y llafariad "O" mewn sefyllfa ddiacen, rhagenwau personol
- cenedl enwau, rhagenwau meddiannol
- llunio cwestiynau, amser y presennol ac enwau lluosog.
Caiff llungopïau eu rhoi o'r deunydd dysgu.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr yn waith cartref. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.
Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.