Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu'r stori o'r newydd: Cyrff, Salwch ac Anabledd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r naratifau y darllenwn yn y cyfryngau am anabledd yn aml yn canolbwyntio ar 'ddioddefaint,' neu ddewrder yn wyneb adfyd, 'goroesi' yn hytrach na dim ond byw.

Beth petaem ni'n ysgrifennu'r stori honno o'r newydd? Mae'r modiwl hwn yn eich gwahodd i ystyried y modd y gellir archwilio a saernïo cyrff, salwch ac anabledd ym maes ysgrifennu creadigol.

Gan dynnu ar agweddau o ddyniaethau meddygol, damcaniaethau lles, a photensial therapiwtig creadigrwydd, bydd y modiwl hwn yn cynnig lle diogel a chefnogol i archwilio, mynegi a herio syniadau ynghylch anabledd.

Does dim angen profiad blaenorol o ysgrifennu.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Mae’r gweithdai yn debygol o ymdrin â rhai o’r pynciau canlynol:

  • Sut caiff cyrff eu hadeiladu mewn llenyddiaeth?
  • Pa mor bwysig yw’r cyfryngau wrth ddeall adeiladweithiau salwch ac anabledd?
  • Mae hynny’n gwahaniaethu ar sail abledd: pam mae iaith yn bwysig?
  • Sut y gall adrodd straeon newid y ffordd rydym yn deall cyrff?
  • Sut gall dyniaethau meddygol newid y ffordd y canfyddir salwch ac anabledd?
  • Pam mae gweithrediaeth anabledd yn bwysig?
  • Sut y gall creadigrwydd fod yn therapiwtig?

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Seilir yr asesiad ar bortffolio o ysgrifennu (hyd at 1500 o eiriau). Bydd pwyslais ar ysgrifennu myfyrgar ystyrlon, yn ogystal â phosibiliadau o ran ailysgrifennu, ysgrifennu dychmygus ac ysgrifennu beirniadol. Bydd yr ysgrifennu yn cael ei asesu'n benodol ar ei ymgysylltiad â phynciau'r modiwl ac ar ddealltwriaeth ddatblygol o ysgrifennu ar gyfer lles.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd tiwtor y cwrs yn darparu darnau o ddeunydd cynradd ac eilaidd perthnasol sy'n berthnasol i'r cwrs a diddordebau penodol y grŵp.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.