Dulliau Ymchwil
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae'r modiwl hwn eich cyflwyno chi i'r cyd-destunau ymarferol a damcaniaethol ar gyfer gwneud ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol.
Mae'r manteision a'r cyfyngiadau o ran defnyddio dulliau cymysg, meintiol ac ansoddol wedi'u hamlinellu ochr yn ochr ag ystyriaethau o ran moeseg ymchwil.
Mae hyn hefyd yn fodiwl opsiynol ar y Llwybr at radd mewn Gofal Iechyd.
Dysgu ac addysgu
Sesiynau yn y dosbarth dan arweiniad tiwtor, seminarau dan arweiniad myfyrwyr.
Mae eich dysgu a’ch addysgu ar gyfer y modiwl hwn yn seiliedig ar astudiaethau hunan-gyfeiriedig.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella.
Fel rhan o'ch astudiaeth byddwch yn cael asesiadau ffurfiol. Bydd y rhain ar ffurf portffolio o dasgau dulliau ymchwil. Mae eich asesiadau wedi’u llunio i’ch paratoi ar gyfer astudio pellach yng nghyd-destun gradd.
Deunydd darllen awgrymedig
Darperir gan y tiwtor yn Amgylchedd Dysgu Rhithwir y brifysgol
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.