Seren Goch yn Codi: Yr Undeb Sofietaidd, 1917-45
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Roedd Chwyldro Rwsia ym 1917 ac, o ganlyniad, sefydlu ac atgyfnerthu’r Undeb Sofietaidd (USSR), yn un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol a phwysig yn y byd yn yr ugeinfed ganrif.
Mae'r cwrs hwn yn edrych ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y chwyldro, cyn ystyried y gwahanol ffactorau sy'n dylanwadu ar hanes dramatig yr Undeb Sofietaidd. O'i sefydlu, hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a dyfodiad y Rhyfel Oer, ac erbyn hynny, roedd USSR wedi dod yn archbwer byd-eang.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch am y pwnc. Mae’r modiwl wedi cael ei drefnu’n gronolegol, gan amlygu’r dadleuon a’r themâu allweddol sy’n parhau i fod yn berthnasol i amgylchiadau gwleidyddol ansicr yr unfed ganrif ar hugain.
Mae'r maes llafur yn cynnwys:
- Wythnos 1 - Rwsia yng nghyfnod y tsar yn yr ugeinfed ganrif gynnar
- Wythnos 2 - 1917: blwyddyn y Chwyldro
- Wythnos 3 - Comiwnyddiaeth yn y rhyfel, 1918-21
- Wythnos 4 - Y Polisi Economaidd Newydd (NEP), 1921-8
- Wythnos 5 - Stalin yn codi
- Wythnos 6 - y chwyldro diwylliannol a'r Cynllun Pum Mlynedd cyntaf, 1928-31
- Wythnos 7 - Staliniaeth a’r Gymdeithas Sofietaidd
- Wythnos 8 - terfysgaeth, clirio a treialon sioe, 1936-8
- Wythnos 9 - y Rhyfel Gwladgarol Mawr, 1941-5
- Wythnos 10 - Casgliad: USSR fel archbwer yn y Rhyfel Oer.
Dysgu ac addysgu
Cynhelir y dysgu ac addysgu drwy weithio mewn grwpiau bach. Mae hwn yn gwrs 10 credyd, felly bydd 10 cyfarfod dwy awr o hyd unwaith yr wythnos (cyfanswm o 20 o oriau cyswllt) a fydd yn cynnwys grwpiau trafod, ymarferion, dadansoddi ffynonellau a chyflwyno deunydd ar fideo a/neu DVD.
Y nod yw sicrhau bod y dosbarthiadau’n bleserus ac ysgogol i bawb. Bydd hyn yn annog datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r pynciau a’r syniadau a drafodir yn ystod y cwrs.
Gwaith cwrs ac asesu
Cewch eich asesu trwy draethodau neu aseiniadau ysgrifenedig cyfatebol eraill hyd at 1500 o eiriau sy'n dangos eich bod yn deall elfennau craidd deunydd y cwrs.
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc. Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion yn y dosbarth. Efallai y byddwn ni’n gofyn ichi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs neu lunio portffolio.
Mae ein hasesiadau’n hyblyg i weddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu, sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
Deunydd darllen awgrymedig
Testunau hanfodol
- Read, Christopher, War and Revolution in Russia, 1914-1922: The Collapse of Tsarism and the Establishment of Soviet Power (Basingstoke, 2012).
- Read, Christopher, From Tsar to Soviets. The Russian People and Their Revolution (London, 1996).
- Suny, Ronald G., The Soviet Experiment: Russia, the USSR, and the Successor States (New York, 2010).
Recommended Reading
- Brovkin, Vladimir, Russia after Lenin: Politics, Culture and Society, 1921-1929 (1998).
- Figes, Orlando, A People's Tragedy: the Russian Revolution, 1891-1924 (London, 1997).
- Fitzpatrick, Sheila, Everyday Stalinism. Ordinary Life in Extraordinary Times: Soviet Russia in the 1930s (New York, 1999).
- Fitzpatrick, Sheila, The Russian Revolution (Oxford, 2008).
- Gill, Graeme, Symbols and Legitimacy in Soviet Politics (Cambridge, 2011).
- Hosking, Geoffrey, Russia and the Russians. From Earliest Times to 2001 (London, 2001).
- Kenez, Peter, A History of the Soviet Union from the Beginning to the End (Cambridge and New York, 2006).
- Priestland, David, Stalinism and the Politics of Mobilization: Ideas, Power, and Terror in Inter-War Russia (Oxford, 2007).
- Rabinowitch, Alexander, The Bolsheviks in Power. The First Year of Soviet Rule in Petrograd (Bloomington, 2007).
- Read, Christopher, The Making and Breaking of the Soviet System: An Interpretation (Basingstoke, 2001).
- Roberts, Geoffrey, Stalin's Wars. From World War to Cold War, 1939-1953 (New Haven, CN, and London, 2006).
- Ryan, James, Lenin's Terror. The Ideological Origins of Early Soviet State Violence (London and New York, 2012).
- Rzhevsky, Nicholas, The Cambridge Companion to Modern Russian Culture, 2nd Edition (Cambridge, 2012).
- Shearer, David R., Policing Stalin's Socialism. Repression and Social Order in the Soviet Union, 1924-1953 (New Haven, CN, and London, 2009).
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.