Ewch i’r prif gynnwys

Dreigiau Coch a Cheffylau Llwyd: Cyflwyniad i Lên Gwerin Cymru

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 10 o gyfarfodydd wythnosol
Tiwtor Dr Juliette Wood
Côd y cwrs FOL20A5433A
Ffi £170
Ffi ratach £136 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Mae llên gwerin Cymru yn gyforiog o chwedlau, credoau ac arferion hen a newydd am y Ddraig Goch, y Fari Lwyd, gwrachod, seintiau a dewiniaid, ysbrydion a thylwyth teg.

Byddwch yn astudio hanes a datblygiad diwylliant llên gwerin Cymru a sut mae wedi addasu i'r byd modern.

Mae llên gwerin Cymru, yn enwedig yr holl draddodiadau am y goruwchnaturiol wedi llywio canfyddiadau am ei tharddiad a'i hunaniaeth, a bydd y cwrs hwn hefyd yn edrych ar y ffyrdd y mae llên gwerin wedi llunio hunaniaeth Gymreig hefyd.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

  • Wynebu’r Gorffennol - Cyflwyno Llên Gwerin a Mythau Cymru
  • Celtiaid a Derwyddon: canfyddiadau o Gymru gartref a thramor
  • Y Mabinogion: Mythau a chwedlau gwerin canoloesol o Gymru
  • Gorffennol a Dyfodol - rhamant Gymreig ganoloesol a'r adfywiad Fictoraidd.
  • Arwyr ac Arwresau: Owain Glyndŵr, Dic Penderyn, Buddug a Gwenllian
  • Chwedlau a Henebion yn Nhirwedd Cymru
  • Dathlu tymhorau Cymru o'r Fari Lwyd i Galan Gaeaf
  • Myrddin a Dewiniaid Cymru
  • Y Byd Goruwchnaturiol: Gwrachod a’r Tylwyth Teg
  • Ysbrydion a drychiolaethau

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Gofynnir i chi gynnal adolygiad byr o erthygl neu bwnc sy'n gysylltiedig â'r cwrs (30%) a thraethawd ar lên gwerin Cymru (70%). Byddwch yn ysgrifennu tua 2000 o eiriau i gyd.

Deunydd darllen awgrymedig

Sioned Davies, The Mabinogion (Oxford, 2008)

Karen Jankulak, Geoffrey of Monmouth (Cardiff: 2010)

Oliver Padel, Arthur and Medieval Welsh Literature (Cardiff 2000)

T. Gwyn Jones, Welsh Folklore and Folk-Customs (1930)

Owen, Trefor M., Welsh Folk Customs (1974)

Customs and Traditions of Wales: A Pocket Guide (1991)

Tony Curtis, ed. Wales, The Imagined Nation. Bridgend: Poetry Wales Press, 1986

Andrew Joynes, Medieval ghost Stories: an Anthology of Miracles, Marvels and Prodigies (Woodbridge, 2001)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.