Rhaglenni Python
Hyd | 12 o gyfarfodydd wythnosol yn ogystal ag 1 Ysgol Dydd Sadwrn | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Mike Evans | |
Côd y cwrs | COM24A5337B | |
Ffi | £528 | |
Ffi ratach | £422 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Nod y modiwl hwn yw darparu cyflwyniad i raglennu yn iaith sgriptio Python.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes â rhywfaint o wybodaeth am raglennu cyfrifiadurol.
Dysgu ac addysgu
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.
Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
Y maes llafur
- Cyflwyniad i iaith Python.
- Cynnal a chrynhoi rhaglenni.
- Datganiadau sydd eu hangen er mwyn creu a phrosesu gwrthrychau mewn Python.
- Cyflwyniad i’r mathau o wrthrychau cynwysedig megis rhifau, rhestrau a geiriaduron.
- Trefnu côd Python yn fodiwlau.
- Cyflwyniad i ddosbarthiadau Python ac archwilio teclyn Rhaglennu sy’n Canolbwyntio ar y Gwrthrych (OOP) Python.
- Trin eithriadau.
- Teclynnau rhagosodedig.
- Fframweithiau a Rhaglenni.
- Llyfrgelloedd arbenigol.
Deunydd darllen awgrymedig
Lutz, M. & Ascher, D., Learning Python. O'Reilly & Associate
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.