Ewch i’r prif gynnwys

Propaganda a Pherswâd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

'Mae’r modiwl hwn yn archwilio iaith ac eiconograffeg propaganda, cynnydd cyfathrebu torfol, a’r ffyrdd y mae ein dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas yn cael ei ffurfio gan iaith berswâd.

War is Peace. Freedom is Slavery. Ignorance is Strength.' Mae’r slogan eiconig hwn o lyfr 1984 gan George Orwell yn crynhoi’r modd y mae propaganda yn atgyfnerthu ffordd o feddwl sy’n aml yn mynd yn groes i’n dealltwriaeth o 'wirionedd'.

Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys rhyfela a gwrthdaro, gwaith menywod, a newyddion ffug, yn ogystal â phryderon rhyngwladol megis cynhesu byd-eang a gofal iechyd. Mewn byd lle mae cyfathrebu yn sydyn, a diderfyn ei gyrhaeddiad, mae deall yr ideoleg o berswâd yn ymddangos yn fwy hanfodol nag erioed.

Mae’r modiwl hwn yn rhan o’r Llwybr at radd yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant ac fel opsiwn annibynnol.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y modiwl hwn dros 9 sesiwn, dwy awr o hyd, wedi’u cyflwyno’n wythnosol.

Cyflwynir y dosbarthiadau drwy amrywiaeth o ddarlithoedd, gweithdai, ymarferion trafod a gwaith grŵp. Bydd myfyrwyr yn derbyn taflenni a rhestr ddarllen, sy’n caniatáu iddynt ddarllen am bynciau perthnasol, ac yn eu galluogi hefyd i ddatblygu eu diddordebau eu hunain a nodi’r cwestiynau allweddol y bydd gofyn iddynt eu hateb yn eu hasesiadau.

Mae pynciau yn debygol o gynnwys:

  • Propaganda a Pherswâd Diffiniadau Hanfodol a Chyd-destunau Hanesyddol
  • Rôl y Cyfryngau Torfol Print, Ffilm a Radio
  • Y Peiriant Propaganda: Modelau, Prosesau a Thechnolegau Newydd
  • Propaganda a Systemau Gwleidyddol: Ymgyrchoedd Etholiad a Newyddion Ffug
  • Propaganda a Rhyfela: O ‘Mae ar eich gwlad eich angen chi’ i’r ‘Rhyfel yn erbyn terfysgaeth’
  • Propaganda a Rhywedd: ‘Gallwn ni ei wneud!’ a gwaith menywod
  • Propaganda a gofal iechyd: gordewdra, imiwneiddio a straeon i godi ofn
  • Propaganda a’r Blaned: Cynhesu byd-eang, llygredd a gwleidyddiaeth.

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd myfyrwyr yn cwblhau dadansoddiad byr o tua 500 o eiriau, yna'r traethawd byr o 1200 o eiriau. Fel arall, gall myfyrwyr gwblhau'r traethawd unigol o 1700 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Chomsky, N., 2002. Media control: The spectacular achievements of propaganda. New York: Seven Stories Press.
  • Curran, J. and Seaton, J., 2009. Power without responsibility: press, broadcasting and the internet in Britain. London: Routledge.7th ed
  • Jowett, G.S. and O'Donnell, V. 2015 Propaganda & Persuasion. London: SAGE. 6th ed.
  • Pratkavis, A. and Aronson, E. 1991. Age of Propaganda: The Everyday Use and Abuse of Persuasion. New York: W.H. Freeman.
  • Shaw, T. 2000. Hollywood's Cold War. Edinburgh: Edinburgh University Press.
  • Stanley, J. 2015. How Propaganda Works. Princetown, NJ: Princeton University Press.
  • Taylor, P. 2002. British Propaganda in the Twentieth Century. Edinburgh: Edinburgh University Press.
  • Thomson, O. 1999. Easily Led: A History of Propaganda. Stroud: Sutton Pub.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.