Project Management Methodologies
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Jo Smedley | |
Côd y cwrs | BAM24A5559A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Nod y modiwl hwn yw ehangu dealltwriaeth o gysyniadau academaidd ac ymarferol methodolegau rheoli prosiect.
Dros gyfnod o 10 wythnos, bydd y myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o wahanol fethodolegau sy’n berthnasol i wahanol gyd-destunau.
Bydd y myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan ddefnyddio damcaniaethau academaidd, ymarferion, profion ac astudiaethau achos. Byddan nhw hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp. Bydd yr addysgu’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd posibl, gan ddatblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy.
Dysgu ac addysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:
- Dewis o blith amrywiaeth o fethodolegau rheoli prosiect er mwyn paratoi, datblygu, adolygu a mireinio cynllun rheoli prosiect;
- Cymhwyso technoleg a chynlluniau rheoli prosiect i faes cymhwyso cyd-destunol.
Gwaith cwrs ac asesu
Cynllun Prosiect – 60%
Adroddiad Myfyriol – 40%
Deunydd darllen awgrymedig
Y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (2019) ‘What is agile project management?’ yn https://www.apm.org.uk/blog/agile-project-management-the-what-and-the-why/
Safonau Prosiect Proffesiynol y Gymdeithas Rheoli Prosiectau yn https://www.apm.org.uk/news/8-out-of-10-employers-choose-chartered/
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.