Ymddygiad Proffesiynol wrth Gyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â cham-ddealltwriaethau cyffredin ynghylch rôl cyfieithwyr ar y pryd mewn gwasanaethau cyhoeddus gan gyfeirio at y Model Diduedd o gyfieithu ar y pryd mewn gwasanaeth cyhoeddus a adlewyrchir yng Nghodau Ymddygiad sefydliadau perthnasol.
Ei nod yw hyrwyddo ymddygiad proffesiynol ymhlith cyfieithwyr ar y pryd mewn gwasanaeth cyhoeddus drwy godi ymwybyddiaeth o'r wybodaeth, y sgiliau, y ddealltwriaeth a'r datblygiad proffesiynol parhaus sydd eu hangen, gan gynnwys ymchwilio i derminoleg, paratoi aseiniadau a gweithio’n llawrydd.
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr dwyieithog sydd eisoes yn gweithio fel Cyfieithwyr ar y pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddu neu sydd â diddordeb yn y maes. Dylai lefel eu Saesneg a’u hiaith arall olygu eu bod yn gallu ysgrifennu testun 250 o eiriau heb unrhyw gamgymeriadau gramadegol neu sillafu, a deall erthyglau papur newydd a thestunau gwybodaeth gwasanaeth cyhoeddus ar bynciau gwasanaeth cyhoeddus. Rhaid iddynt hefyd allu mynegi eu hunain yn rhugl, yn glir ac yn gydlynol yn y ddwy iaith.
Bydd angen i fyfyrwyr allu cael mynediad at gyfleusterau TG gan fod y cwrs yn dibynnu ar ddefnyddio system ebost a Rhith-amgylchedd Dysgu Prifysgol Caerdydd (sef Dysgu Canolog) i gyfathrebu â’r tiwtor, i gael mynediad at wybodaeth a deunyddiau’r cwrs ac ar gyfer cyflwyno aseiniadau.
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer y Diploma Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI) sydd i’w gael trwy sefyll arholiad allanol annibynnol gan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion. Mae croeso i fyfyrwyr nad ydynt am sefyll yr arholiad DPSI fynd i’r cyrsiau hefyd.
Dysgu ac addysgu
- Rhoddir cyflwyniad i fyfyrwyr i brif egwyddorion ymddygiad proffesiynol ar gyfer cyfieithwyr gwasanaeth cyhoeddus (PS) gan gyfeirio at y model diduedd Cyfieithu ar y pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus. Bydd y tiwtor yn dangos sut maen nhw’n cael eu cymhwyso i sefyllfaoedd a lleoliadau amrywiol.
- Bydd y sgiliau sydd eu hangen ar gyfieithydd ar y pryd mewn gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hamlinellu a’u hesbonio.
- Bydd y myfyrwyr yn cael eu harwain i ymchwilio i derminoleg a datblygu eu geirfaoedd eu hunain, ac yn cael eu cyflwyno i sgiliau aralleirio.
- Bydd materion ymarferol yn ymwneud â gweithio fel cyfieithydd ar y pryd mewn gwasanaeth cyhoeddus yn y DU yn cael eu hamlinellu a’u trafod.
Gwaith cwrs ac asesu
Yn y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn cael eu tywys drwy amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd (Dysgu Canolog), er mwyn ymgymryd â gwaith darllen ac ymchwil perthnasol ac i gymryd rhan mewn dadleuon am gyfyng-gyngor Ymddygiad Proffesiynol.
Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y cewch ambell gwis. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs, neu lunio portffolio. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a’r myfyriwr.
Ar gyfer y cwrs hwn mae'r asesiadau'n cynnwys astudiaethau achos ysgrifenedig byr a chymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein drwy gydol y cwrs. I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Deunydd darllen awgrymedig
Tudalennau ac adnoddau sy'n gysylltiedig â’r Diploma Cyfieithu ar y pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (DPSI) a’r cylchgrawn The Linguist, y ddau o wefan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion.
Y Côd Ymddygiad ar gyfer NRPSI (Cofrestr Genedlaethol Cyfieithwyr mewn Gwasanaeth Cyhoeddus).
Bydd adnoddau perthnasol eraill yn cael eu gosod ar Dysgu Canolog yn ystod y cwrs.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.