PHP3 – PHP Datblygu Rhaglen ar y We
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno PHP sy’n canolbwyntio ar wrthrych, a defnyddio patrymau meddalwedd i ddatblygu rhaglen gwe ymarferol.
Mae'r cwrs yn cynnwys datblygu dosbarthiadau a dulliau PHP er mwyn creu a chynnal rhaglenni ar y we. Mae'n cwmpasu gwahanu gwahanol rannau rhaglen ar y we a’u perthnasoedd drwy raglennu sy'n canolbwyntio ar wrthrych, ac mae’n dangos eu defnydd wrth ddatblygu rhaglenni ymarferol ar y we.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes â rhywfaint o wybodaeth am iaith raglennu PHP.
Dysgu ac addysgu
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol.
Bydd y cwrs hwn yn addysgu hanfodion rhaglennu sy’n canolbwyntio ar wrthrych fel y bo’n gymwysadwy at PHP, a bydd yn cwmpasu Dosbarthiadau, Dulliau, a’u perthynas.
Bydd yn cwmpasu creu Gwrthrychau drwy achosi dosbarth, etifeddu, ac estyn dosbarthiadau. Gwneir hyn drwy nifer o brosiectau unigol sy’n gofyn am ryw lefel o ddatblygiad PHP a gwmpesir yn ystod y gwersi.
Bydd y cwrs yn parhau gydag enghreifftiau o batrymau dyluniad meddalwedd arferol sy’n defnyddio rhaglennu yn steil OO i gyflawni rhaglen we gynaliadwy, a bydd yn trafod manteisio/anfanteision y gwahanol ddulliau.
Pwrpas eilaidd yr adran hon fydd i’r myfyriwr benderfynu pa steil y byddant yn ei ddefnyddio am ran olaf y cwrs.
Bydd y cwrs wedyn yn darparu cyfle i bob myfyriwr ddewis rhaglen we addas a dilyn y dull dylunio a ddewiswyd ganddynt er mwyn creu eu rhaglen we gynaliadwy eu hunain. Yna caiff myfyrwyr y cyfle i ddefnyddio naill ai templed sydd eisoes yn bodoli neu ddefnyddio eu hamser eu hunain i greu rhaglen bwrpasol mwy personol.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
Deunydd darllen awgrymedig
- PHP Object Oriented Solutions David Powers / Friends of Ed
- Practical Web 2.0 Applications with PHP Quentin Zervaas / Apress
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.