Ffuglen a Ffantasi Athronyddol
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
A yw trasiedïau Groeg yn datgelu breuder rhinwedd? A yw rhinwedd yn rhagdybio temtasiwn? A all niwrowyddonwyr anfoesol ddangos ewyllys rydd?
Ydy ffuglen wyddonol yn egluro natur meddyliau? Allech chi oroesi 'trawsblaniad corff'? A allai peiriant deall eich meddwl yn well na chi?
Mae llawer o amrywiaethau o ffuglen a ffantasi yn codi cwestiynau am feddyliau, peiriannau a moesoldeb, terfynau gwybodaeth ddynol a natur meddwl a realiti. Mae athronwyr eu hunain yn creu mân-ffuglenau wrth lunio 'arbrofion meddwl', creu enghreifftiau a dychmygu achosion posibl.
O ogof Plato a Gefaill y Ddaear, lle nad H2O yw 'dŵr', i deithio drwy amser a chathod bach pŵerus, mae athronwyr wedi creu detholiad o senarios ffantastig gydag araeau dryslyd o amrywiadau cynnil.
Byddwn yn ystyried cwestiynau athronyddol gan ddefnyddio ffuglen ac yn asesu'n feirniadol ei defnyddiau athronyddol. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am athroniaeth, ffuglen na ffantasi.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau.
Gallai’r pynciau gynnwys:
- Ffuglen athronyddol: Arbrofion meddwl, achosion damcaniaethol a senarios rhyfeddol
- Sut mae ffuglen athronyddol yn cael eu defnyddio mewn athroniaeth? Pa rôl y maent yn ei chwarae wrth gefnogi a gwrthbrofi honiadau, damcaniaethau a dadleuon athronyddol?
- Ffuglen mewn athroniaeth
- Sut a pham mae moesegwyr yn defnyddio nofelau cyfoes a hanesyddol, trasiedïau Groegaidd a gweledigaethau iwtopaidd neu ddystopaidd i nodi cwestiynau, ysgogi greddfau a goleuo damcaniaethau?
- Cwestiynau methodolegol
- A all cynhyrchion dychymyg dynol ein helpu i nodi cwestiynau athronyddol a/neu eu hateb?
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd yn rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.
Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’r dysgu. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.
Ar gyfer y cwrs hwn, byddwch yn ymgymryd ag ymarfer llunio cwestiwn byr (5%), astudiaeth achos (20%) a phapur (75%). Bydd hyn i gyd tua 1,700 – 2,000 o eiriau.
Deunydd darllen awgrymedig
Byddwch yn cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr cyn i'r cwrs ddechrau.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.