Pobl, Hunaniaeth a Chymdeithas: Creu Prydain Fodern
Hyd | 9 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Elizabeth Jones | |
Côd y cwrs | HIS24A5521A | |
Ffi | £264 | |
Ffi ratach | £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Adeilad John Percival |
O ble mae ein hunaniaethau’n dod? Beth yw eu hanes? Sut y datblygodd cymdeithas ym Mhrydain i fod yn ystod amrywiol o gymunedau – y rhai rydym yn rhan ohonynt heddiw?
Byddwn yn dechrau gyda chwestiynau megis beth mae'n ei olygu i fod yn 'Brydeinig', 'Celtaidd', 'Cymreig' neu 'Seisnig', gan ystyried dylanwad Lloegr o ran Ynysoedd Prydain a chysyniad Hanes y Pedair Cenedl: profiad hanesyddol Cymru, yr Alban, Iwerddon a Lloegr.
Yna, byddwn yn ymchwilio i effaith datblygiadau a luniodd ac a newidiodd gymdeithas Prydain, gan ystyried syniadau ynghylch ymerodraeth, caethwasiaeth, syniadau ynghylch dosbarth, ac effaith y ddau Ryfel Byd. Yn olaf, byddwn yn archwilio ystyriaethau hanesyddol diweddar gan gynnig safbwynt ôl-drefedigaethol, ac amrywiaethu o ran gwaith haneswyr wrth archwilio sut mae syniadau’n ymwneud â hil, rhywedd, a rhywioldeb yn trawsnewid ein dealltwriaeth, gan ddatgelu lleisiau hanesyddol nas clywyd hyd yma.
Wrth drin a thrafod y pynciau hyn, cewch gyfle i ystyried, a chyflwyno – trwy ddarn o ysgrifennu hanes cyhoeddus fel blog neu erthygl fer mewn cylchgrawn – hanes y cymunedau a’r hunaniaethau hynny sy’n bwysig i chi.
Dysgu ac addysgu
Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno dros naw sesiwn ar-lein dwy awr o hyd. Bydd y sesiynau'n gymysgedd o ddarlithoedd, adnoddau clyweledol, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.
Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr hefyd ddarllen deunydd perthnasol wedi’i argraffu a defnyddio hynny’n sail ar gyfer cyfrannu yn y dosbarth.
Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod a’r darlithoedd eu hunain.
Maes Llafur:
- Cyflwyniad: Pwy ydych chi’n ei gredu ydych chi?
- Pwy yw'r Celtiaid? Y Celtiaid a Chysyniadau ynghylch Celtigrwydd
- Ynysoedd Lloegr? Seisnigeiddio a Hanes y Pedair Cenedl.
- Ymerodraeth, Caethwasiaeth a’r Effaith Hirdymor ym Mhrydain yn y ddeunawfed Ganrif.
- Dosbarth a Chymdeithas ym Mhrydain yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.
- Rhyfel a'r Gweithlu ym Mhrydain yn yr Ugeinfed Ganrif.
- Yr Empire Windrush.
- Rhywedd a Rhywioldeb ym Mhrydain Fodern.
- Casgliadau: ysgrifennu hanes cymdeithas fodern Prydain.
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:
- adolygiad beirniadol byr o lyfr, erthygl neu ffynhonnell wreiddiol
- darn 1000 gair o waith cwrs hanes cyhoeddus, fel erthygl cylchgrawn neu flog
Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.
Deunydd darllen awgrymedig
- Linda Colley, Britons: Forging the Nation, 1707-1837 (New Haven: Yale University Press, 2005).
- Joanna De Groot, Empire and History Writing in Britain, c.1750-2012 (Baltimore, MD: Project Muse, 2017).
- Hugh Kearney, The British Isles: A History of Four Nations, 2nd edition (Cambridge: Cambridge University Press, 2006).
- Barbara Korte and Eva Ulrike Pirker, Black History White History: Britain’s Historical Programme Between Windrush and Wilberforce (Bielefeld: transcript Verlag, 2011).
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.