Ffyrdd Newydd o Ddarllen: Ideoleg a Thestun
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae ein credoau, rhagfarnau a rhagdybiaethau yn llywio popeth rydym yn ei ddweud a’i wneud. Mae credoau, rhagfarnau a rhagdybiaethau pobl eraill yn effeithio ar bopeth rydym yn ei ddarllen a'i glywed.
Yn y cwrs hwn, byddwn yn ystyried y ffyrdd y gall iaith roi cyfarwyddyd a gwthio syniadau trwy astudio testunau amrywiol, gan gynnwys hysbysebion, penawdau papur newydd, nofelau, straeon byrion a cherddi.
Yn ogystal ag edrych ar ffyrdd y gall testunau yn parhau ideolegau penodol, byddwn hefyd yn ystyried sut gall ideolegau ddad-lunio testunau: bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i ddarllen testunau clasurol megis Jane Eyre o safbwynt ffeministaidd ac ôl-drefedigaethol, ac archwilio materion hunaniaeth ddiwylliannol mewn ffuglen yr 20fed ganrif yng Nghymru.
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth, iaith neu athroniaeth a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Naratifau Mewnol, a'r llwybr Naratifau Mewnol, a’r Llwybr ar radd yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant. Bydd yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i chi a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.
Caiff y cwrs hwn ei addysgu ar y cyd gyda Dr Michelle Deininger (Darlithydd Cydlynol yn y Dyniaethau).
Dysgu ac addysgu
Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu dros dair ysgol ddydd ar ddyddiau Sadwrn olynol. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, dadleuon, gwaith grŵp a gwaith pâr.
Yn ogystal, bydd cymorth ar gael cyn ac ar ôl yr ysgolion dydd eu hunain, wedi’i hwyluso trwy gyswllt e-bost a thrwy Dysgu Canolog, sef Rhith-Amgylchedd Dysgu’r Brifysgol.
Gwaith cwrs ac asesu
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith asesedig:
- dadansoddiad agos 600 o eiriau
- traethawd 1200 o eiriau.
Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
- Fairclough, N., Language and Power (London, 1989)
- Christopher Hampton, The Ideology of the Text (Buckingham, 1990)
- Andrew Heywood, Political Ideologies: An Introduction, 5ed Arg., (Basingstoke, 2012)
- Sally Johnson a Tommaso M. Millani (golygyddion), Language Ideologies and Media Discourse: Texts, Practices, Politics (London, 2010)
- Herbert W. Simons a Michael Billig (golygyddion), After Postmodernism: Reconstructing Ideology Critique (London, 1994)
- Bydd rhagor o awgrymiadau darllen yn cael eu rhoi yn y dosbarth.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.