New Directions in Acceptance and Commitment Therapy
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Ingrid Wallace | |
Côd y cwrs | SOC24A5550A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Ingrid Wallace | |
Côd y cwrs | SOC24A5550B | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae'r modiwl hwn yn gwrs lefel canolradd/uwch mewn Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT).
Mae'r cwrs hwn yn gyfle i ennill dealltwriaeth gyfoes a chyflawn o ACT, yn enwedig ar gyfer pobl sy’n dymuno gweithio gydag ACT.
Mae gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan yn Cyfeiriadau Newydd yn Therapi Derbyn ac Ymrwymo meddu ar wybodaeth sylfaenol am ACT. Mae'r cwrs yn agored i bawb sy'n bodloni'r maen prawf hwn, p'un a yw eu gwybodaeth o ACT yn deillio o gymryd rhan mewn modiwlau ACT I a ACT II neu y rhai sydd â phrofiad o ACT yn eu hymarfer proffesiynol.
Dysgu ac addysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:
Mae gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan yn Cyfeiriadau Newydd yn Therapi Derbyn ac Ymrwymo meddu ar wybodaeth sylfaenol am ACT. Mae'r cwrs yn agored i bawb sy'n bodloni'r maen prawf hwn, p'un a yw'r wybodaeth hon o ACT yn deillio o gymryd rhan yn ACT 1, neu unrhyw gwrs, hyfforddiant neu weithdy rhagarweiniol ACT arall.
PEN-BLWYDD HAPUS ACT! Mae ACT yn 40 mlwydd oed eleni ac mae llawer wedi newid dros y blynyddoedd.
Mae nifer o ddatblygiadau newydd yn dod allan o'r Unol Daleithiau ac Awstralia.
Cynnwys y maes llafur
1. Modelau, prosesau, athroniaeth a damcaniaethau
- Beth sydd mewn cenhedlaeth?: Athroniaeth ACT (3ydd don therapi ymddygiad) o'i gymharu â Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) (2il don)
- Beth sydd mewn enw?: enw gwreiddiol ACT – a'r hyn mae'n ei ddweud am ACT yn seiliedig ar broses.
- ACT a therapi sy'n seiliedig ar broses
- Beth sy'n newydd a sut mae'n ymwneud ag ACT a'r Hexaflex?
- Sut mae 'bod yn drawsddiagnostig' yn ffitio i mewn i hyn?
- Trin a thrafod cefndir damcaniaethol ACT:
- Theori Fframiau Perthnasoedd
Mae fframiau perthnasoedd yn rhwydweithiau geiriol:
Sut rydyn ni'n gweld ein hunain a'r byd
2. Agwedd cyd-destunol swyddogaethol –
- Hawdd ei ddeall gyda'r Matrics ACT (y model ymarferoldeb a ddatblygwyd gan Kevin Polk)
- Llyfrau plant sy’n cyd-fynd ag ACT
Therapi Derbyn ac Ymrwymo Wedi’i Ffocysu (F-ACT)
Datblygwyd F-ACT (ACT fel ymyrraeth dros dro) yn bennaf ar gyfer lleoliadau gofal sylfaenol
3. Parhad o ACT wedi’i ffocysu
Datblygwyd F-ACT (ACT fel ymyrraeth dros dro) yn bennaf ar gyfer lleoliadau gofal sylfaenol
4. Matrics ACT
- Yn fwy na model ar gyfer ACT, mae'r Matrics bellach yn ffordd gyflawn a newydd o gyflawni ACT a gwneud synnwyr o frwydrau cymhleth ein bywydau:
- Matrics unigol
- Matrics rhag-gymdeithasol
- Creu bwrdd darlunio gyda'r Matrics
- Sut i gynyddu cymhelliant cleient
- Trosiadau hanfodol
- Sut mae'r Matrics yn ymwneud â'r modelau ACT eraill
- Gofalwch eich iaith wrth wneud y Matrics!
Gwaith cwrs ac asesu
Dyddiadur Myfyriol (100%)
Deunydd darllen awgrymedig
- The Essential Guide to the ACT Matrix: A Step-by-Step Approach to Using the ACT Matrix Model in Clinical Practice (Dr Kevin L. Polk , Benjamin Schoendorff , et al. | 28 Gorffennaf 2016)
- ACT made simple, 2il argraffiad (Dr Russ Harris, 2019)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.