Bydoedd Neo-Baganaidd: O'r Hen Gredoau i Fudiadau Modern
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Juliette Wood | |
Côd y cwrs | FOL24A5525A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Adeilad John Percival |
Mae’r syniad poblogaidd o baganiaeth yn creu delweddau o ddefodau hynafol a chredoau egsotig gyda llu o hud a lledrith, ond mae hefyd yn ffurfio treftadaeth gyfoethog a chymhleth sydd wedi dylanwadu ar artistiaid, awduron, athronwyr ac ysgolheigion.
Mae'r dreftadaeth hon wedi dod yn fwy perthnasol i fywyd diwylliannol ac ysbrydol cyfoes trwy symudiadau amrywiol sy'n cynnwys agweddau ar y gorffennol paganaidd i systemau cred newydd a chreadigol yn aml.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ymddangosiad yr ysgogiadau (neo-bagan) newydd hyn fel systemau meddwl yn eu rhinwedd eu hunain, ac fel ffynonellau dylanwadol ar gyfer meysydd eraill o ddiwylliant fel celf a llenyddiaeth.
Er mwyn deall yr ysbrydolrwydd hwn, byddwn yn archwilio paganiaeth glasurol y cyfnod Rhufeinig-Roegaidd, ei ddatblygiad yn ystod y cyfnod canoloesol a'r Dadeni, a'i adfywiad o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw. Bydd y cwrs yn archwilio chwedlau am ddewiniaid enwog ac ysgolheigion ecsentrig fel John Dee, Paracelsus, Faust ac Aleister Crowley.
Mae Neo-baganiaeth fodern wedi'i chysylltu â chrefydd hynafol, y goruwchnaturiol, hud Celtaidd a diddordeb o'r newydd mewn ecoleg. Bydd y cwrs hwn yn edrych ar sut mae’r ffactorau hyn wedi effeithio ar ddiwylliant poblogaidd er mwyn deall sut mae agweddau at baganiaeth wedi newid dros amser.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl trwy ddeg sesiwn 2 awr o hyd. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd ac yna trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.
Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.
Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.
Maes Llafur
- Ymddangosiad y Bydysawd Neo-Baganaidd
- Dewiniaid – Ddoe a Heddiw
- Diddordeb o’r newydd yn y goruwchnaturiol a'i ddylanwad parhaus
- Hud Poblogaidd a Gwerin Gyfrwys
- Paganiaeth Fodern – Thelema, Wicca, Asatru a Mudiadau Ysbrydol Newydd
- Hud mewn Ffilm a Diwylliant Poblogaidd
- Gwrachod a Mam Dduwiesau – Rôl Menywod
- Y Tarot - o Gêm Gerdyn i Hud Cyfrinachol
- Neo Derwyddon a'u Cyndadau
10. Mae Dewiniaeth yn wir! Byd Montague Summers
- Witches and Mother Goddesses – The Role of Women
- The Tarot from Card Game to Mystical Magic
- Neo Druids and their Forbears
- Witchcraft is Real! The World of Montague Summers
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:
- adolygiad beirniadol byr
- traethawd 1000 gair.
Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.
Deunydd darllen awgrymedig
- Ronald Hutton, The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft (Oxford: Oxford University Press, 1999).
- James R. Lewis, Magical Religion and Modern Witchcraft (Albany, NY: State University of New York Press, 1996).
- Sabina Magliocco, Witching Culture: Folklore and Neo-Paganism in America (Philadelphia PA: University of Pennsylvania Press, 2004).
- Juliette Wood, ‘The Creation of the Celtic Tarot’, Folklore 109 (1998) 15-24.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.