Ewch i’r prif gynnwys

Llywio drwy Labrinth Minoa Gwareiddiad Creta'r Oes Efydd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae gwybodaeth boblogaidd am Greta'r Oes Efydd wedi'i chymylu gan fythau am arwyr ac angenfilod.

Mae'r chwedleuon hyn yn adnabyddus iawn ond yn rhwystro ein dealltwriaeth o’r Minoaid, gwareiddiad hirhoedlog a chyfareddol a wnaeth ddominyddu Creta am hyd at ddwy fil o flynyddoedd.

Gan mai ychydig o ffynonellau ysgrifenedig (ac ar y cyfan heb eu dehongli) sydd wedi goroesi o'r cyfnod, mewn archaeoleg y gellir dod o hyd i'r allwedd i ddatgloi cyfrinachau'r diwylliant dirgel hwn.

Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno chi i gelf ac archaeoleg yr Oes Efydd Gynnar, Canol a Hwyr yng Nghreta (c.3000-1100 C.C.). Byddwn hefyd yn mynd i'r afael â materion ehangach fel datblygiad gwladwriaethau palasau yn yr ail fileniwm C.C., natur y gymdeithas, yr economi, credoau crefyddol a defodau claddu a'r damcaniaethau croes am dranc y gwareiddiad Minoaidd yn y pen draw.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i chi drwy Dysgu Canolog.

  1. Creta mewn mytholeg, chwedloniaeth a hanes. Cyflwyniad i’r cwrs ac i Archaeoleg Egeaidd
  2. Ymdarddiad gwareiddiad: Damcaniaeth Datblygiad Mewnol
  3. Yr oes Efydd gynnar yn Crete
  4. Yr Hen Balasau: ymddangosiad gwareiddiad?
  5. Ardal y Môr Egeaidd a’r Dwyrain yn yr ail fileniwm C.C.
  6. Y Palas Newydd, Creta: Palasau a Gwladwriaethau
  7. Arferion claddu yng Nghreta Oes yr Efydd
  8. Crefydd yn Ardal y Môr Egeaidd yn Oes yr Efydd
  9. Celf Minoaidd a Myseneaidd
  10. Creta ar ôl y Palasau Newydd Cyfnod y Palasau Terfynol ac ar ôl y Palasau

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd aseiniadau'n cynnwys dwy dasg ysgrifenedig o 500 a 1,000 o eiriau a byddant yn cynnwys beirniadaeth ffynhonnell neu adolygiad dogfennol a thraethawd.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Cullen, T. 2001. Aegean Prehistory: a review. Boston: Archaeological Institute of America.
  • Dickinson, O.T.P.K. 1994a. The Aegean Bronze Age. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
  • Preziosi, D. a L. Hitchcock. 1999. Aegean Art and Architecture. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.