Ewch i’r prif gynnwys

Misteri d’Italia

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Questo corso e` per studenti con un livello avanzato d’italiano e propone di scoprire quegli aspetti dell’Italia meno conosciuti, quali personaggi meno famosi ma non per questo meno importante, storie e leggende popolari, casi irrisolti, luoghi pieni di storia e di mistero.

Guarderemo video, ascolteremo testimonianze e leggeremo testi, e agli studenti verra` data la possibilita` di esprimere opinioni, partecipare a dibattiti e role-plays.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr a chanddynt sgiliau iaith datblygedig ( 5+ mlynedd o astudio rhan-amser neu uwch) sy'n gallu cynnal sgwrs gyffredinol yn Eidaleg. Addysgir y cwrs drwy gyfrwng yr Eidaleg.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau rydych chi wedi’u meithrin neu eu mireinio. Mae’n rhaid i rywfaint o hyn fod ar ffurf y gellir ei dangos i arholwyr allanol fel y gallwn fod yn hollol siŵr bod safonau wedi’u bodloni ar draws yr holl gyrsiau a phynciau.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai disgwylir i chi lunio portffolio o destunau ysgrifenedig a chymryd rhan yn y dosbarth. Mae ein hasesiadau’n hyblyg i weddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.