Ewch i’r prif gynnwys

Delweddu Meddygol a'r Corff Dynol

Hyd 10 cyfarfodydd wythnosol
Tiwtor Dr Bilal Malik
Côd y cwrs SCI24A3968A
Ffi £264
Ffi ratach £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Hyd at yr 20fed ganrif, daeth ein dealltwriaeth, i raddau helaeth, o anatomeg dynol o ddyrannu (dissection).

Gan ddechrau gyda hanes byr ynglŷn ag anatomeg, byddwn yn archwilio'r ffordd y mae'r gwaith o gymhwyso pelydr-X, uwchsain, cyseinydd magnetig ac amrediad o dechnegau eraill yn ein galluogi i ffurfio delweddau gwahanol, gan fagu dealltwriaeth fanylach ac anoresgynnol o'r corff dynol ar yr un pryd.

Pynciau a drafodir:

  • hanes byr iawn o anatomeg
  • defnyddio offerynnau i archwilio / monitro’r corff
  • y corff trydan
  • pelydrau-x: o belydrau catod i sganiau CT
  • pelydrau-x a’r corff dynol
  • o sonar i uwchsain
  • magnetedd: O Mesmer i MRI
  • delweddu Meddygol a’r Sbectrwm Electromagnetig.
  • ymbelydredd: ffynonellau naturiol ac artiffisial, ymbelydredd alffa, beta a gama. Delweddu gweithredol gyda radioisotopau.
  • Tomograffeg Gollwng Positronau.

Mae'r cwrs hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn natblygiad a defnydd cyfredol amrywiaeth eang o dechnegau ffisegol y gellir eu defnyddio i ddelweddu a monitro cyflwr y corff dynol.

Gellir dilyn y cwrs fel modiwl dewisol ar y llwybr at radd mewn gofal iechyd.

Dysgu ac addysgu

Bydd yna ddarlithoedd, trafodaethau ac astudiaethau achos.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion yn y dosbarth. Efallai y byddwn ni’n gofyn ichi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs neu lunio portffolio. Mae ein hasesiadau’n hyblyg i weddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu, sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Nid oes yna lyfr cwrs penodol, a bydd y tiwtor yn cyflenwi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig sy’n hanfodol ar gyfer y cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.