Rheoli Cyllid II
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Petros Makris | |
Côd y cwrs | BAM24A2861A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Mae'r cwrs hwn yn cynnig astudiaeth bellach o ddatganiadau ariannol, cynllunio a rheoli ariannol, a thechnegau rheoli arian eraill.
Dylai myfyrwyr fod wedi cwblhau Rheoli Cyllid I, neu fod â gwybodaeth flaenorol am gyfrifeg. Cofrestrwch o flaen llaw os gwelwch yn dda.
Nod y cwrs yw cynnig dealltwriaeth fwy manwl/uwch o dechnegau rheoli cyllid.
Ar ddiwedd y cwrs hwn bydd gan fyfyrwyr ddealltwriaeth o'r canlynol:
- dadansoddi ariannol
- cyllidebau
- rheoli cyllidebol
- cynlluniau busnes
- y pwynt adennill
- arfarnu buddsoddiad cyfalaf
- rhai technegau cyfrifo rheolaeth eraill
Mae'r cwrs yn agored i bawb, does dim angen cymwysterau blaenorol.
Dysgu ac addysgu
Rhaglen darlithoedd:
- Cyflwyniad: themâu a phynciau
- Dadansoddiad/mesuriad ariannol a gwerthfawrogi canlyniadau
- Dadansoddiad/mesuriad ariannol a gwerthfawrogi canlyniadau
- Cyllidebau a rheoli cyllidebau
- Dadansoddiad o elw-cyfaint-costau (y pwynt adennill)
- Cyfrifon cyfunol
- Proffidioldeb cynnyrch, buddsoddiad cyfalaf a llif arian gostyngol
- Yr adroddiad blynyddol a'r cyfrifon
- Cynlluniau busnes
- Ailgrynhoi a chasgliad
Gwaith cwrs ac asesu
Mae asesiad ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys tri ymarfer ysgrifenedig ar y canlynol:
- Dadansoddi ariannol
- Cyllidebau a rheoli cyllidebau
- Amrywiol, gan gynnwys proffidioldeb cynnyrch a llif arian gostyngol.
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
Deunydd darllen awgrymedig
- Pendlebury, M a Groves, R 2003. 6ed argraffiad Company Accounts, Analysis, Interpretations and Understanding Llundain: Thomson Books
- Attrill, P, Harvey, D a McLaney, E 2000 Accounting for Business Butterworth Heinemann
- Thomas, A 2009 6ed argraffiad Introduction to Financial Accounting McGraw Hill Publishing Co.
- Barrow, C 2001 Financial Management for Small Businesses Kogan Page
- Burrow, P 2001 The Best Laid Business Plans - How to write them, How to pitch them Virgin Business Guides cyhoeddedig gan Mackays of Catham plc
- Burns, P 2006 2il argraffiad Entrepreneurship and Small Business Chippenham, Anthony Rowe Ltd
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.