Rheoli Cyllid I
Hyd | 10 o gyfarfodydd wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | TBC | |
Côd y cwrs | BAM24A1361B | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Mae angen i reolwyr a chyflogwyr ar bob lefel fod yn gymwys ar lefel rheoli ariannol.
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i helpu myfyrwyr i ddeall yr agweddau ariannol sydd eu hangen i reoli’r busnes/adran. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol. Cofrestrwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
Nodau:
Cynnig dealltwriaeth o'r egwyddorion a phrosesau rheoli ariannol i ddefnyddwyr anarbenigol.
Amcanion:
Ar ddiwedd y modiwl hwn, dylai myfyrwyr gael gwell dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol cadw llyfrau a chyfrifeg. Yn benodol:
- cofnodi trafodion yn y llyfrau cyfrif
- paratoi gweddill prawf
- prisio asedion at ddibenion cyfrifon
- paratoi Cyfrifon Gweithgynhyrchu, Masnachu ac Elw a Cholled, a'r Fantolen
- paratoi Cyllideb Ariannol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Mae'r cwrs yn agored i bawb, does dim angen cymwysterau blaenorol.
Dysgu ac addysgu
- Rhaglen Darlithoedd:
- Cyflwyniad a chadw llyfrau cofnod dwbl
- Llyfr arian parod a llyfrau is-gwmnïau
- Llyfr arian parod a gweddill prawf
- Hunanfasnachwyr, partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig
- Prisio asedau, croniadau a rhagdaliadau
- Cyfrif gweithgynhyrchu, masnachu ac elw a cholled, a'r fantolen
- Cyllideb arian parod/llif arian a chronfeydd a chymhwyso cronfeydd
- Cyflwyniad i gyfrifon cyfunol
- Cyfrifon wedi'u cyhoeddi
- Ailgrynhoi a chasgliad y cwrs
Gwaith cwrs ac asesu
Mae'r asesiad ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys: yr atebion ysgrifenedig i dri ymarfer a ddyluniwyd er mwyn profi gwybodaeth y myfyriwr am y pynciau a gwmpesir yn y cwrs. Bydd un ymarfer fesul tair sesiwn, mwy neu lai, ac mae'r ymarfer cyntaf i'w gwblhau fel ymarfer dosbarth.
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
Deunydd darllen awgrymedig
- Pendlebury, M a Groves, R 2003. 6ed argraffiad Company Accounts, Analysis, Interpretations and Understanding Llundain: Thomson Books
- Attrill, P, Harvey, D a McLaney, E 2000 Accounting for Business Butterworth Heinemann
- Thomas, A 2009 6ed argraffiad Introduction to Financial Accounting McGraw Hill Publishing Co.
- Barrow, C 2001 Financial Management for Small Businesses Kogan Page
- Burrow, P 2001 The Best Laid Business Plans - How to write them, How to pitch them Virgin Business Guides cyhoeddedig gan Mackays of Catham plc
- Burns, P 2006 2il argraffiad Entrepreneurship and Small Business Chippenham, Anthony Rowe Ltd
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.