Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu am Fywyd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Defnyddiwch eich hanes a’ch profiad eich hun i adrodd stori eich bywyd.

P’un ai a ydych chi eisiau ymgysylltu â darllenwyr, rhannu eich hanes gyda theulu a ffrindiau, neu ysgrifennu ar eich cyfer chi eich hun a neb arall, bydd y modiwl hwn yn rhoi'r dulliau a'r modd o gyfansoddi gwaith ysgrifennu cymhellol am fywyd, hunangofiannau a chofiannau.

Dysgu ac addysgu

Cynhelir y dysgu ac addysgu drwy weithio mewn grwpiau bach. Mae hwn yn gwrs 10 credyd, felly bydd cyfarfodydd dwy awr unwaith yr wythnos (20 awr o gyswllt i gyd) fydd yn cynnwys trafodaethau, ymarferion (opsiynol), darlithoedd ynghylch crefft a gweithdai.

Y nod yw sicrhau bod y dosbarthiadau’n bleserus ac ysgogol i bawb. Disgwylir i chi ysgrifennu yn eich amser preifat eich hun, gydag arweiniad eich tiwtor, a dysgu am adolygu, wrth ymgyfarwyddo yr un pryd â chysyniadau sylfaenol ysgrifennu creadigol.

Cynnwys y maes llafur

  • Wythnos 1: Cyflwyniadau. Diffiniadau ysgrifennu am fywyd. Hanfodion hunangofiant.
  • Wythnos 2: Edrych ar ein gwreiddiau a'n tarddiadau. Atgofion cyntaf. Diffinio'r hunan.
  • Wythnos 3: Ysgogi cymeriadau cwbl grwn. Disgrifio cymeriad. Enghreifftiau clasurol.
  • Wythnos 4: Cynnal sgwrs rhwng cymeriadau. Ysgrifennu deialog credadwy.
  • Wythnos 5: Sut i gynllunio eich stori. Naratif llinol o gymharu â moddau eraill. Nodi a disgrifio adegau allweddol.
  • Wythnos 6: Dangos o gymharu â dweud. Manylion synhwyrus o gymharu â chadw pethau’n syml. Gwneud cysylltiad emosiynol.
  • Wythnos 7: Edrych ar themâu ein stori. Rhannu'r hyn berodd embaras i ni, yn ogystal â llwyddiannau.
  • Wythnos 8: Adrodd eich stori gyda delweddau. Ysgrifennu wrth ymateb i ffotograffau.
  • Wythnos 9: Ysgrifennu cysylltiadol gan ddefnyddio gwrthrych fel ysbrydoliaeth.
  • Wythnos 10: Ysgrifennu awtomatig. Ysgogiadau ar-lein. Ysgrifennu o restr. Cadw i ysgrifennu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fydd unrhyw arholiadau ffurfiol. Cewch eich annog i ysgrifennu a darllen enghreifftiau o'ch gwaith eich hun i gyd-aelodau eich dosbarth, a rhoi sylw ar eu gwaith mewn tro, yn y broses o hogi eich sgiliau beirniadu.

Eich dewis chi yw ar ba ffurf y byddwch yn ysgrifennu, ond bydd eich tiwtor yn cynnig cyngor i chi, a chan ddibynnu ar ba lefel rydych yn astudio arni, yn penderfynu ar gynllun astudio gyda chi, â'r nod o ennyn y gorau ohonoch.

Sail yr asesiad fydd portffolio o ysgrifennu creadigol yn cynnwys y gwaith gorau a gynhyrchwyd gennych ar y modiwl hwn. Gall y portffolio hwn gynnwys sawl darn creadigol ar wahân, neu un darn o ysgrifennu estynedig, gyda chytundeb eich tiwtor ymlaen llaw.

Eich tiwtor fydd yn asesu eich gwaith, a bydd wedyn yn cynnig adroddiadau ysgrifenedig i chi, a'n gobaith yw y byddwch yn teimlo eu bod yn adeiladol.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau yn hyblyg ac wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd tiwtor y cwrs yn cynnig teitlau, fel sy'n briodol.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.