Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu Darllen Cerddoriaeth

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Ydych chi’n chwarae offeryn neu’n canu? Ydych chi eisiau gwella’ch dealltwriaeth o gerddoriaeth ysgrifenedig?

Ydych chi eisiau gwybod mwy am sut mae nodiant cerddoriaeth yn gweithio? Bydd y modiwl hwn yn apelio i'r rheiny sy'n dysgu chwarae offeryn, cantorion, cyfansoddwyr, ac unrhyw un sy'n ymwneud â cherddoriaeth grŵp.

Gan ddechrau o’r dechrau, mae’n dilyn yn fras faes llafur theori’r Associated Board of the Royal Schools of Music trwy’r graddau cynnar gan eich addysgu sut i ddarllen a dilyn cerddoriaeth ysgrifenedig.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i chi drwy Dysgu Canolog.

Gradd 1:

  • Gwerthoedd amser
  • deufarrau ac arwyddion amseriad
  • Nodau ar yr erwydden
  • Y cleff trebl a bas
  • Tawnodau; Dotiau, Hapnodau a sut i'w canslo

Tonau a hanner tonau; Y graddfeydd ac arwyddion allweddol C, G, D a F fwyaf; graddau'r raddfa, Triawdau’r tonydd; Cyfansoddi rhythm; Cyfarwyddiadau perfformio

Gradd 2:

  • Llinellau ychwanegol
  • Arwyddion amser 2/2, 3/2, 4/2 a 3/8
  • Allweddau mwyaf, B fflat ac E fflat
  • Allweddau lleiaf A, E a D (harmonig a melodaidd)
  • Tripledi
  • Cyfosod nodau a thawnodau
  • Cyfyngau
  • Cyfansoddi rhythm pedwar bar
  • Cyfarwyddiadau perfformio

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymarferion dosbarth (30%) ac ymarfer ffug arholiad (70%) a gynlluniwyd i efelychu papur arholiad ABRSM. Yn yr ail elfen, gall myfyrwyr ddewis cymryd y papur mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Eric Taylor, Music Theory in Practice, Grade 1 (ABRSM Publishing)
  • Eric Taylor, Music Theory in Practice, Grade 2 (ABRSM Publishing)
  • Eric Taylor, The AB Guide to Music Theory (ABRSM Publishing)
  • Eric Taylor, First Steps in Music Theory (ABRSM Publishing)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.