Gwella eich Japaneeg I
Hyd | 12 o gyfarfodydd wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Noriko Whitelock | |
Côd y cwrs | JPN24A2946A | |
Ffi | £230 | |
Ffi ratach | £184 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Adeilad John Percival |
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at fyfyrwyr sydd wedi astudio Japaneeg am un flwyddyn yn rhan amser.
Yn y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn ymarfer deialogau/sefyllfaoedd bywyd go iawn i gyrraedd lefel uwch o gyfathrebu gyda phobl Japan. Bydd myfyrwyr yn ehangu eu sgiliau ysgrifenedig, geirfa a dealltwriaeth o strwythur Japaneeg.
Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:
- gwahoddiad
- cynllunio taith
- siarad am weithgaredd un diwrnod mewn trefn
- gofyn am gyfarwyddiadau/rhoi cyfarwyddiadau
- gwneud ceisiadau
- gofyn/rhoi/gwrthod caniatâd.
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, a fydd yn cynnwys y canlynol:
- Bôn y ferf + masho/masho ka/masen ka
- Berf ffurf te
- Berf ffurf nai
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n meddu ar rywfaint o wybodaeth sylfaenol o Japaneeg e.e. wedi cwblhau cyrsiau Dechreuwyr I a Dechreuwyr II neu gymwysterau eraill cyfatebol. Disgwylir i fyfyrwyr ddeall berfau Japaneeg syml (ffurf masu-) ac ansoddeiriau. Dylai myfyrwyr allu darllen ac ysgrifennu Hiragana a Katakana, gyda deunyddiau ategol neu hebddynt.
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a’r myfyriwr.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Deunydd darllen awgrymedig
Gwerslyfrau y cwrs yw: Japanese for Busy People I (Kana version), Revised 4th Edition, AJALT, 2022.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.