Eidaleg: Sgwrsio i Ddechreuwyr Llwyr
Hyd | Dydd Llun 30 Mehefin i ddydd Gwener 4 Gorffennaf 2025 | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Bruna Chezzi | |
Côd y cwrs | ITA24A4360A | |
Ffi | £157 | |
Ffi ratach | £135 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn medru gair o Eidaleg.
Mae’n canolbwyntio ar siarad a deall yr iaith mewn cyd-destunau ymarferol.
Delfrydol os ydych am gael blas ar Eidaleg! Bydd 2 awr o hyfforddiant trwy weminarau byw ac 1.5 awr o baratoi ar gyfer pob sesiwn.
Mae cyn-gofrestru yn hanfodol
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer. Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs
Gwaith cwrs ac asesu
Asesu parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth.
Deunydd darllen awgrymedig
Byddwn yn darparu'r holl ddeunyddiau.
Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein platfform dysgu ar-lein.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.