Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilio i Gerddoriaeth: Hanes a Diwylliant

Hyd Cyflwynir y modiwl mewn ugain sesiwn rhyngweithiol dwy awr o hyd ar-lein, yn nhymhorau’r hydref a’r gwanwyn.
Tiwtor Tutor to be confirmed
Côd y cwrs MUS24A5576A
Ffi £393
Ffi ratach £314 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Mae’r modiwl hwn yn eich cyflwyno chi i ddatblygiad cerddoriaeth yn ei chyd-destunau hanesyddol a diwylliannol ac yn edrych ar y ffyrdd gwahanol y gellir mynd ati i’w ystyried a’i deall.

Mae’r modiwl yn ystyried elfennau sylfaenol cerddoriaeth (gan gynnwys alaw, harmoni, gwead a dynameg) a sut y gellir defnyddio’r rhain, ynghyd â dulliau a thechnegau eraill, i ddarllen, ysgrifennu a siarad am amrywiaeth eang o wahanol arddulliau a genres megis jazz, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth draddodiadol o bedwar ban byd, a cherddoriaeth glasurol y Gorllewin.

Byddwch chi hefyd yn cael eich cyflwyno i astudiaeth academaidd o gerddoriaeth ac ymchwil cerddoriaeth, fydd yn rhoi sgiliau astudio a llythrennedd hanfodol i chi – megis cyfeirnodi, llunio llyfryddiaeth, technegau ysgrifennu traethodau a gwerthuso deunyddiau ffynhonnell yn feirniadol.

Bydd hyn yn sicrhau eich bod chi’n gallu bodloni gofynion ysgrifennu asesiadau ym mlwyddyn gyntaf y radd.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl mewn ugain sesiwn rhyngweithiol dwy awr o hyd ar-lein, yn nhymhorau’r hydref a’r gwanwyn.

Mae'r pynciau’n cynnwys

  • Datblygiad cerddoriaeth mewn cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol
  • Elfennau sylfaenol cerddoriaeth (alaw, harmoni, gwead, a dynameg) a'r ffyrdd maen nhw’n caeu eu cymhwyso
  • Deall genres ac arddulliau (gan gynnwys jazz, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth draddodiadol o bob rhan o’r byd, cerddoriaeth glasurol y Gorllewin)
  • Astudiaeth academaidd o gerddoriaeth ac ymchwil i gerddoriaeth

Erbyn diwedd y modiwl, byddwch chi’n gallu:

  • Dangos ymwybyddiaeth o elfennau sylfaenol cerddoriaeth (gan gynnwys alaw, harmoni, gwead, deinameg, ac ati) a sut y gellir cymhwyso'r rhain i ystod eang o gerddoriaeth mewn gwahanol arddulliau, genres a thraddodiadau;
  • Dangos tystiolaeth o wybodaeth am y gweithiau/perfformiadau dan sylw yn y modiwl a dealltwriaeth o'u cefndir a'u cyd-destunau diwylliannol;
  • Mynegi ymateb beirniadol priodol ac ystyrlon i gerddoriaeth rydych chi’n ei chlywed a’i hastudio drwy’r sgôr, gan ddefnyddio terminoleg briodol;
  • Dangos eich bod chi’n ymarferol gyfarwydd â phrotocolau ysgolheigaidd generig a’r rhai penodol i astudio cerddoriaeth;
  • Adrodd yn gryno ac yn gywir am waith eraill, gan gymharu a chyferbynnu, ac ymgysylltu'n feirniadol â gwaith a dulliau gwahanol ysgolheigion.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd rhaid i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella. Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau’n ceisio rhoi hyder i chi, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion prysur.

Ar gyfer y cwrs hwn, byddwch chi’n gwneud yr asesiadau canlynol:

Hydref (50%) - astudiaeth achos gymharol yn cynnwys dau ddarn/genres sy’n trin a thrafod dealltwriaeth a’r defnydd o elfennau cerddoriaeth trwy NAILL AI tasg ‘boster’ NEU dasg ‘PowerPoint’.

Gwanwyn (50%) - cyfrannu at gyflwyniad rhyngweithiol, grŵp bach yn canolbwyntio ar ddau ddarn/genres sy'n archwilio elfennau cerddoriaeth gyda ffocws cryfach ar sgiliau astudio academaidd (e.e. cyfeirnodi ac ymchwil).

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch chi’n cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr cyn i'r cwrs ddechrau.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.