Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Ysgrifennu Straeon Tylwyth Teg Traddodiadol a Modern

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs yn ceisio ysbrydoli awduron profiadol a newydd i greu straeon tylwyth teg gwreiddiol eu hunain.

Yn ystod y 10 wythnos, bydd y myfyrwyr yn archwilio beth sy’n gwneud straeon tylwyth teg yn ffurf deniadol, unigryw o adrodd straeon, gan ystyried tarddiadau, iaith, themâu, cymeriadau, lleoliad, motiffau a dyfais naratif.

Bydd y myfyrwyr yn casglu portffolio o waith ysgrifennu a ysbrydolwyd gan straeon tylwyth teg, yn llawn hud a lledrith, rhyfeddod a metamorffosis.

Mae'n cynnig cyfle i ganfod yr hyn sy'n gwneud stori tylwyth teg yn fath unigryw o hudolus o adrodd stori. Fesul wythnos, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth i wreiddiau, iaith, themâu, cymeriadau, lleoliad, ysgogiadau a dyfeisiadau naratif y stori tylwyth teg, a hynny'n ei dro'n ysbrydoli'r broses o fynd ati i ysgrifennu eu stori tylwyth teg wreiddiol eu hunain.

Dysgu ac addysgu

Cynhelir y dysgu ac addysgu drwy weithio mewn grwpiau bach.

Mae hwn yn gwrs 10 credyd, felly bydd cyfarfodydd dwy awr unwaith yr wythnos (20 awr o gyswllt i gyd) fydd yn cynnwys trafodaethau, ymarferion (opsiynol), darlithoedd ynghylch crefft a gweithdai.

Y nod yw sicrhau bod y dosbarthiadau’n bleserus ac ysgogol i bawb. Disgwylir i chi ysgrifennu yn eich amser preifat eich hun, gydag arweiniad eich tiwtor, a dysgu am adolygu, wrth ymgyfarwyddo yr un pryd â chysyniadau sylfaenol ysgrifennu creadigol.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fydd unrhyw arholiadau ffurfiol. Cewch eich annog i ysgrifennu a darllen enghreifftiau o'ch gwaith eich hun i gyd-aelodau eich dosbarth, a rhoi sylw ar eu gwaith mewn tro, yn y broses o hogi eich sgiliau beirniadu.

Sail yr asesiad fydd portffolio (tua 1500 o eiriau) yn cynnwys naill ai stori tylwyth teg gyfan, wreiddiol, neu gyfres o olygfeydd tylwyth teg gwreiddiol, wedi'u creu a'u hysbrydoli gan eich dealltwriaeth o wreiddiau, iaith, themâu, cymeriadau, lleoliadau a'r ddyfais naratif yn y stori tylwyth teg draddodiadol.

Yn ogystal â'r gwaith creadigol gwreiddiol hyn, byddwch hefyd yn myfyrio’n bersonol ar y broses a'r arfer o ysgrifennu straeon tylwyth teg eich hun. Eich tiwtor fydd yn asesu eich gwaith, a bydd wedyn yn cynnig adroddiadau ysgrifenedig i chi, a'n gobaith yw y byddwch yn teimlo eu bod yn adeiladol.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau yn hyblyg ac wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd tiwtor y cwrs yn cynnig teitlau, fel sy'n briodol.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.