Cyflwyniad i Hanes Celf: Archwiliadau Pellach
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Angela Morelli | |
Côd y cwrs | AAA23A5539A | |
Ffi | £186 | |
Ffi ratach | £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 21-23 Ffordd Senghennydd |
Yn y cwrs hwn, byddwch yn ymchwilio'n ddyfnach i Hanes Celf a'r hyn y gellir ei ddarganfod am bobl, lleoedd a chymdeithas mewn gwaith celf.
Byddwch yn astudio artistiaid a datblygiadau allweddol yn y celfyddydau gweledol trwy archwilio paentiadau, cerfluniau a ffresgoau (er enghraifft gan artistiaid megis Hieronymus Bosch, Michelangelo, Raphael, Rubens, Goya, William Blake a Dante Gabriel Rossetti).
Mae'r cwrs yn dechrau trwy archwilio gwaith celf sy'n portreadu duwiau a chwedloniaeth yng nghelf yr Hen Aifft. Yna byddwn yn ystyried dylanwad celf Islamaidd yn hanes celf y Gorllewin.
Rhoddir sylw pellach i gelf Dadeni’r Gogledd, Darddulliaeth yr Eidal, Baróc a Neo-Glasuriaeth, a daw’r modiwl i ben gyda chelfyddyd a chymdeithas Oes Fictoria. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, lle byddwn yn dysgu mwy am y casgliad a lle mae’r gweithiau celf cyd-fynd â hanes celf.
Nid oes angen astudiaeth flaenorol, er bod hwn yn ddilyniant naturiol o CE5512 Cyflwyniad i Hanes Celf.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach a sesiynau dadlau. Bydd adnoddau sy’n ategu’r sesiynau ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.
Cynnwys y maes llafur
- Trosolwg o'r modiwl a Duwiau'r Aifft
- Celf Glasurol: Gwlad Groeg a Rhufain
- Cwis – Celf ganoloesol
- Celf Dadeni'r Eidal
- Celf Dadeni'r Gogledd
- Baróc a gwaith Rembrandt
- Neo-glasuraeth a Hogarth
- Celf Oes Fictoria: Pre-Raphaelites
- Posteri, pamffledi a gwleidyddiaeth: celf bropaganda
- Atgrynhoi’r modiwl a pharatoi ar gyfer yr aseiniad.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd rhaid i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.
Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.
Bydd myfyrwyr naill ai'n ysgrifennu traethawd o tua 1,500 o eiriau neu dri gwerthusiad 500 gair o weithiau celf.
Deunydd darllen awgrymedig
Awgrymiadau o ran darllen a Rhestr Adnoddau:
Adnoddau ar y rhyngrwyd
National Gallery. 2023. Artists A to Z. [online] http://www.nationalgallery.org.uk/artists/
Tate Britain. 2023. Art and Artists. [online] http://www.tate.org.uk/art
Deunydd Darllen a Argymhellir
Victoria Charles and Marlena Metcalf, Renaissance Art (2012)
Anthony Janson, History of Art (2001)
Marcia Pointon, History of Art: a student’s handbook (2014)
Mark Bills, Art in the age of Queen Victoria: a wealth of depictions (2001)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.