Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i'r Gwyddorau Cymdeithasol

Hyd 12 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Sikiya Adekanye
Côd y cwrs SOC24A4968B
Ffi £528
Ffi ratach £422 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Bydd Cyflwyniad i'r Gwyddorau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar eich astudiaethau ar y gymdeithas sydd ohoni.

Byddwn yn edrych ar y cyfryngau a'r ffordd maent yn effeithio ar grwpiau gwahanol yn ein cymdeithas; y diwylliannau newidiol o fewn ein cymdeithas; y cyfraniad a'r berthynas sydd gan y gymdeithas â gwleidyddiaeth.

Mae'r cwrs hwn yn fodiwl 20 credyd ar y llwybr at radd yn y gwyddorau cymdeithasol. Bydd sgiliau astudio yn ffocws penodol y tymor hwn, fel eich bod yn hyderus ac yn barod i symud ymlaen at y cwrs nesaf ar y llwybr, os byddwch yn dewis ei gymryd.

Mae'r cwrs hefyd yn fodiwl opsiynol ar y llwybr at radd mewn gofal iechyd.

Dysgu ac addysgu

Caiff y cwrs ei addysgu'n wythnosol a bydd dwy Ysgol Dydd Sadwrn. Bydd 40 o oriau cyswllt.

Yn ogystal, gofynnir i chi ddarllen a gwneud tasgau ymchwil er mwyn paratoi ar gyfer y dosbarth a'ch aseiniadau.

Bydd y strategaeth dysgu/addysgu ar gyfer y modiwl hwn yn rhoi pwyslais ar 'ddysgu’n weithredol' ar gyfer y dysgwr wrth ddatblygu dealltwriaeth o'r pwnc, a pha mor berthnasol yw i'r gymdeithas.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Caiff amser ei roi yn y dosbarth i baratoi ar gyfer ysgrifennu traethawd 800 gair (nid yw'r marc hwn yn cyfrif tuag at y marc terfynol ar gyfer y modiwl). Bydd hyn yn rhoi ychydig o gyfle i chi ymarfer ysgrifennu traethodau cyn eich bod yn cyflwyno eich aseiniad gwaith cwrs.

Caiff y modiwl ei asesu ar draethawd 2,000 o eiriau a phrawf yn y dosbarth. Bydd pob asesiad yn werth 50% o'r marc cyffredinol.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch yn aelod o lyfrgell y Brifysgol gyda mynediad at bob un o'r testunau hyn

  • Fulcher, J. and Scott, J. (2011) Sociology (4th Edition). Oxford: Oxford University Press
  • Macionis,J. & Plummer,K. (2005) Sociology: A Global Introduction (3rd edition) London: Prentice Hall

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.