Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Athroniaeth Gymdeithasol a Gwleidyddol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Pa sail sydd i awdurdod gwleidyddol? Pa ffurfiau ar Lywodraeth sy'n gyfiawn? Beth yw gormes? Beth yw natur cydraddoldeb?

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth o bynciau mewn athroniaeth gymdeithasol a gwleidyddol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar syniadau a ddaw o'r traddodiad dadansoddol gorllewinol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau.

Cynnwys y maes llafur

Dyma’r pynciau allai fod o dan sylw:

  • gwahanol gysyniadau o 'gyfiawnder'
  • cyfreithlondeb neu ddiffyg grym gwleidyddol a gwahanol fathau o lywodraeth
  • sail a therfynau priodol rheolaeth y wladwriaeth, rhyddid unigol a chymuned wleidyddol
  • eiddo
  • hawliau dynol, cyfreithiol a moesol
  • gormes, gwahaniaethu a gweithredu cadarnhaol
  • cydraddoldeb
  • trosedd a chosbi

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Ar gyfer yr asesiad, byddwch yn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig o 1,500-2,000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd y tiwtor yn darparu rhestr ddarllen lawn.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.