Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Gysylltiadau Rhyngwladol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn ddisgyblaeth gyffrous sy'n ymchwilio i wleidyddiaeth yn y fforymau rhanbarthol a byd-eang.

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i gysyniadau allweddol Cysylltiadau Rhyngwladol yn eu cyd-destun hanesyddol ac yn archwilio’r damcaniaethau rhyngwladol hanfodol a ddatblygwyd dros y blynyddoedd i ddeall y system ryngwladol.

Dyma fodiwl gwerth 10 credyd ar y Llwybr at Gysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth.

Dysgu ac addysgu

Bydd yn cynnwys y canlynol:

  • cyflwyniad i ddamcaniaethau cysylltiadau rhyngwladol
  • diogelwch cyfunol
  • ymyrraeth ddyngarol
  • cyfrifoldeb dros warchod
  • hunan-benderfyniad a chydnabyddiaeth.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ar gyfer y cwrs hwn, cewch eich asesu ar sail un traethawd neu un prawf dosbarth.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.