Cyflwyno Biofoeseg
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Clea Rees | |
Côd y cwrs | PHI24A5583A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Adeilad John Percival |
- Ydy hi’n bosib i rywun gael pump o rieni?
- A ddylai ein disgynyddion fod yn annynol?
- Ydy 'gadael rhywun i farw' yn well nag ewthanasia?
- Ydy niwroamrywiaeth yn cael ei gamddosbarthu’n anabledd?
- Beth sy'n gwahaniaethu anghydymffurfiaeth a gwallgofrwydd?
- Sut mae gormes yn dylanwadu ar brofiadau o salwch meddwl?
Mae’r modiwl hwn yn edrych ar heriau moesegol mewn meddygaeth, geneteg a niwrowyddoniaeth.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am athroniaeth.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau.
Byddwn ni’n trafod cwestiynau sy'n ymwneud â biofoeseg, cymdeithas a'r wladwriaeth. Bydd y drafodaeth yn cael ei llywio, fel y bo'n briodol, gan athroniaeth glasurol a chyfoes, gan gynnwys dulliau ffeministaidd, gwaith empeiraidd yn y gwyddorau dynol, achosion gwirioneddol a damcaniaethol, polisi cyhoeddus a'r gyfraith.
Gallai’r pynciau gynnwys:
- Personoldeb
- Iechyd
- Fframweithiau Moesegol
- Gormes
- Biofoeseg Fyd-eang
- Bod yn rhiant/ Plentyndod
- Bodau'r Dyfodol
- Agwedd dadol
- Meddyliau
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd rhaid i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, er mwyn i ni allu bod yn hollol siŵr bod safonau wedi’u bodloni ar draws yr holl gyrsiau a phynciau.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg. Mae ein dulliau’n ceisio rhoi hyder i chi, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion prysur.
Ar gyfer y cwrs hwn, byddwch chi’n gwneud y canlynol: ymarfer llunio cwestiwn byr (5%), astudiaeth achos (20%) a phapur (75%). Bydd hyn i gyd tua 1,700 – 2,000 o eiriau.
Deunydd darllen awgrymedig
Byddwch chi’n cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr cyn i'r cwrs ddechrau.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.