Sbaeneg Sgyrsiol - C
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddefnyddio ystod ehangach o sgiliau iaith llafar, clywedol ac ysgrifenedig er mwyn gallu siarad am faterion bob dydd mewn gwledydd lle siaredir Sbaeneg, a mynegi eich barn yn ysgrifenedig mewn modd mwy manwl.
Yn ogystal, byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o ddiwylliant gwledydd lle siaredir Sbaeneg ymhellach.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar siarad, ac, yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i ymarfer eich sgiliau siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp, gwrando ar dapiau sain/fideo dilys, darllen testunau papurau newydd wedi'u symleiddio, a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg.
Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:
- rhesymau dros ddysgu Sbaeneg
- hoff bethau a chas bethau (amser hamdden)
- sgyrsiau dros y ffôn
- cyfryngau cymdeithasol
- dinasoedd Sbaen (teithio)
- pobl enwog (Antonio Gaudí)
- hanes (y dylanwad Arabaidd yn Sbaen)
- bywyd gwaith
- traddodiadau
- technoleg (cofio'r gorffennol).
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, gan gynnwys y canlynol: adolygu amser y presennol a berfau fel gustar, presennol perffaith v gorffennol, arddodiaid, rhagenwau gwrthrychol, ser ac estar, brawddegau cymharol (dangosol), cymarebau, berfau cydymffurfio, amherffaith (soler).
Y llyfr testun yw Nuevo Prisma A2, curso de español para extranjeros, Editorial Edinumen. 2013. Libro del alumno (llyfr myfyrwyr).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth o'r Sbaeneg fyddai'n ddigonol ar gyfer goroesi, ac sy’n dymuno gwella eu sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn glywedol ac yn ysgrifenedig. Mae'n briodol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ennill gradd TGAU dda yn ddiweddar, neu wedi cwblhau Gwella eich Sbaeneg, Cyfnod B.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gryfhau’ch hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.
Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.