Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg Ganolradd – Cyfnod C

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddefnyddio ystod ehangach o sgiliau iaith llafar, clywedol ac ysgrifenedig, digon i chi allu siarad am faterion bob dydd mewn gwledydd lle siaredir Almaeneg gyda pheth petruso, a mynegi eich barn yn ysgrifenedig mewn modd mwy manwl.

Byddwch hefyd yn datblygu ymhellach eich dealltwriaeth o ddiwylliant gwledydd lle siaredir Almaeneg.

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar siarad ac yn y dosbarth fe gewch chi ddigon o gyfle i ymarfer eich sgiliau sgwrsio drwy weithio mewn parau ac ymarferion grŵp:

  • gwrando ar dapiau sain/fideo dilys
  • darllen testunau papurau newydd wedi'u symleiddio a chwblhau ymarferion, a fydd yn gwella eich geirfa a'ch gwybodaeth o ramadeg.

Bydd detholiad o'r pynciau canlynol o dan sylw:

  • amodau byw
  • bwyd
  • anifeiliaid
    gwleidyddiaeth a thechnoleg.

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, gan gynnwys y canlynol:

  • wurden + berfenw
  • berfenw gyda 'zu'
  • is-gymalau gydag 'als', 'wen' a 'nachdem'
    gorberffaith
  • y modd dibynnol, ansoddeiriau, berfau adferfol
  • rhagenwau derbyniol a gwrthrychol
  • cymalau perthynol
  • amser y dyfodol
  • goddefol (presennol).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth o Almaeneg fyddai'n ddigonol ar gyfer goroesi, ac sy’n dymuno gwella eu sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn glywedol ac yn ysgrifenedig. Mae'n briodol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ennill gradd TGAU dda yn ddiweddar, neu wedi cwblhau Gwella eich Almaeneg, Cyfnod B.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Spektrum A2, Penodau 1-6

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.