Athroniaeth Fewnol
Hyd | 9 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Clea Rees | |
Côd y cwrs | PHI24A5311A | |
Ffi | £264 | |
Ffi ratach | £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Adeilad John Percival |
Byddwn yn dechrau ar daith athronyddol sydd yn ein galluogi i ddechrau edrych ar ein bywydau a chwestiynu ein rhagdybiaethau.
Bydd yn edrych ar gwestiynau fel 'beth yw ystyr bywyd?' 'beth sydd mor wael am farwolaeth?' 'a ydych chi’n rhydd i gymryd y dosbarth hwn, neu a oedd eich dewis wedi’i bennu cyn eich geni hyd yn oed?'. Roedd Socrates yn honni mai dim ond bywyd a archwiliwyd oedd yn werth ei fyw.
Sut ydych yn gwybod bod y byd yn bodoli y tu hwnt i’ch meddwl? Allwch wybod bod gan bobl eraill feddyliau? Beth yw meddyliau a sut maent yn perthyn i’r ymennydd? Sut mae geiriau’n magu ystyr? Pam mae helpu hen fenyw i groesi’r heol yn foesol gywir, tra bo ei churo’n anymwybodol a chymryd ei harian yn foesol anghywir?
Yw bodau dynol yn fwy gwerthfawr na tsimpansïaid, cathod a bresych? Yw moesoldeb yn dibynnu ar dduw, neu yw treisio yn anfoesol hyd yn oed os nad oes yna dduw? A oes unrhyw ddadleuon da o blaid neu yn erbyn bodolaeth duw?
A oes unrhyw reswm da dros gredu mewn duw? Pa hawliau sydd gan unigolion? Beth sy’n gwneud cymdeithas yn gyfiawn?
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn athroniaeth a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Naratifau Mewnol, a bydd yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i chi a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys naw uned wedi'u rhannu'n themâu. Mae pob uned yn cynnwys sesiwn wyneb yn wyneb 2 awr o hyd rhwng 19:00 a 21:00. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan amgylchedd dysgu rhithwir y brifysgol, Dysgu Canolog.
Gwaith cwrs ac asesu
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau tri darn o waith a asesir:
- adluniad o ddadl 250 gair
- beirniadaeth 500 gair o’r ddadl honno
- traethawd 750.
Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y tri aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer pob darn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
- Nagel, T. (197) What Does It All Mean? A very short introduction to philosophy. Gwasg Prifysgol Rhydychen.
- Descartes, R., 'Meditations on First Philosophy'. Mewn Cottingham, J., Stoothoff, R., and Murdoch, D., trans. (1988) Descartes: Selected Philosophical Writings. tt. 73-122. Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
- Hofstadter, D. R. and Dennett, D. C., eds (1981) The Mind's I: Fantasies and Reflections on Self and Soul Basic Books.
- Pojman, L. P., ed. (2004) The Moral Life: An Introductory Reader in Ethics and Literature. 2il argraffiad Gwasg Prifysgol Rhydychen.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.