Y tu mewn i Iaith
Hyd | 9 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Suzanne Good | |
Côd y cwrs | ENG24A5313A | |
Ffi | £264 | |
Ffi ratach | £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Beth yw iaith? Sut mae plant yn dysgu iaith? Sut mae anifeiliaid yn defnyddio iaith? Byddwn yn ymchwilio i’r cwestiynau hyn a mwy er mwyn deall gwerth a phwysigrwydd astudio iaith yn y byd modern.
Rydym yn byw mewn oes o gyfathrebu gormodol, yn trosglwyddo a derbyn iaith o bob cyfeiriad drwy gydol pob eiliad effro o’n bywydau. Rydym yn defnyddio geiriau i siarad, ysgrifennu, anfon neges destun neu e-bost, a thrydaru, rydym yn mynegi ein hunain yn barhaus trwy ystumiau ac iaith y corff, ac yn addasu ein mynegiant i amrywiaeth eang o gyd-destunau mewn miloedd o ffyrdd cynnil a chymhleth. Ac eto, anaml y byddwn yn oedi i ystyried sut mae iaith yn gweithio - prin iawn yw’r cyfleoedd sydd gennym i wneud hynny.
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn iaith a chyfathrebu a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Naratifau Mewnol, a bydd yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i chi a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr. Ni thybir bod unrhyw wybodaeth flaenorol gennych ac mae pob croeso i fyfyrwyr sydd am gyflawni hwn fel cwrs annibynnol hefyd.
Dysgu ac addysgu
Addysgir y modiwl hwn dros 9 sesiwn, dwy awr o hyd, wedi’u cyflwyno’n wythnosol.
Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd. Bydd cyfle hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan Amgylchedd Dysgu Rhithwir y brifysgol, Dysgu Canolog.
Gwaith cwrs ac asesu
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau tri darn o waith a asesir:
- darn myfyriol 300 gair
- dadansoddiad 600 gair o ddarn byr o destun
- traethawd 1000 gair.
Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y tri aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer pob darn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
- Coupland, N., and Jaworski, A. (2009) The New Sociolinguistics Reader. Basingstoke: Palgrave Macmillan.
- Saeed, J. (1996) Semantics, New York: John Wiley & Sons, Incorporated.
- Sampson, G. (2005) The ‘Language Instinct’ Debate. London: Continuum.
- Wardhaugh, R., and Fuller, J. M. (2014) An Introduction to Sociolinguistics. Somerset: John Wiley & Sons, Incorporated.
- Yule, G. (2020) The Study of Language (7th edition). Cambridge: Cambridge University Press.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.