Ewch i’r prif gynnwys

Chwilio am yr Awen

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Briony Goffin
Côd y cwrs CRW24A5587A
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr
Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Briony Goffin
Côd y cwrs CRW24A5587B
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Ar y cwrs hwn, byddwch chi’n trin a thrafod natur ysbrydoliaeth - beth yw hi a sut i ddod o hyd iddi, gyda'r nod o gael yr awen i lifo a pharhau i ysgrifennu.

Yn ystod y cwrs, byddwch chi’n mynd i'r afael â phynciau y mae awduron yn ei chael hi’n anodd eu goresgyn, megis cael eich atal rhag ysgrifennu, wrth hefyd ystyried sut i ddatblygu arferion ysgrifennu da.

Ymhlith y meysydd eraill y byddwch chi’n eu trafod y mae datblygu llais dilys, dewis y ffurf gywir, a defnyddio motiffau personol. Yn olaf, bydd y cwrs yn eich helpu chi i bennu nodau a dyheadau o ran eich ysgrifennu chi.

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dod i rai o’r cyrsiau blaenorol a gynhelir gan Briony Goffin ond bydd y cwrs hwn yn cynnig yr un croeso cynnes a chyfeillgar i‘r rhai sy’n newydd i’r pwnc.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp bach.

Gallai’r pynciau gynnwys:

  • Natur ysbrydoliaeth
  • Dechrau ysgrifennu a sut i ddal ati
  • Ymdrin â thrafferthion sy’n atal awduron rhag ysgrifennu
  • Dod o hyd i'ch llais a natur dilysrwydd
  • Penderfynu ar ffurf
  • Themâu a motiffau
  • Nodau a dyheadau o ran eich ysgrifennu

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella i ddyfarnu credydau. Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gwella eich dysgu. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, ac rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion prysur.

Byddwch chi’n cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eich proses eich hun. Bydd y portffolio yn cynnwys tua 1500 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch chi’n cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen unrhyw beth ymlaen llaw.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.