Syniadau ynghylch Ymerodraethau: O Bersia i Putin
Hyd | 3 Cyfarfod | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Alun Williams | |
Côd y cwrs | HIS24A5486A | |
Ffi | £264 | |
Ffi ratach | £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Beth yw ymerodraeth? Beth oedd y farn ynghylch ymerodraethau? Sut wnaeth ymerodraethau hynafol lunio syniadau fu’n bodoli mewn canrifoedd diweddarach, ac sy’n bodoli hyd at heddiw, ynghylch ymerodraethau?
Bydd y cwrs hwn yn archwilio syniadau ynghylch ymerodraethau o gyfnod yr Akkadiaid i weledigaethau imperialaidd awtocratiaethau a democratiaethau'r 20fed a'r 21ain ganrif.
Byddwn yn archwilio sut y sefydlodd Akkad ymerodraeth gyntaf y byd, gan sefydlu hefyd arferion, cynseiliau ac ideolegau imperialaidd, a ddylanwadodd ar ymerodraethau dilynol gan gynnwys Assyria, Persia, Groeg, a Rhufain. Byddwn yn ystyried sut y cafodd Rhufain, ymerodraeth fwyaf eiconig y byd, ddylanwad dwfn ar brosiectau imperialaidd Ewropeaidd dilynol, a hynny mewn ffyrdd uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Yma, bydd astudiaethau achos yn archwilio ymerodraethau’r Dadeni a luniwyd yn y ‘Byd Newydd’, ac yn ystyried sut roedd y prosiectau imperialaidd a gododd yn ystod y Rhyfeloedd Byd, y Rhyfel Oer a’r cyfnod ôl-Sofietaidd i gyd yn ddyledus iawn i weledigaethau ac ideolegau oedd wedi’u gwreiddio yn y gorffennol.
Bydd ein prif ffocws ar y syniadau ac ar sut y dylanwadodd ideolegau ac arferion ymerodrol cynharach ar ymerodraethau olynol. Byddwn hefyd yn ystyried dilysrwydd dulliau mwy uniongyrchol o gymharu sy'n ymestyn ar draws cyfnodau hirfaith yn aml, er mwyn dod i gasgliadau hanesyddol ehangach.
Dysgu ac addysgu
Bydd y modiwl yn cael ei addysgu trwy dair ysgol benwythnos, gyd-gysylltiedig, sy’n cynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai.
Ceir bloc dwys o 15 awr cyswllt wyneb yn wyneb sy’n cael ei fframio gan dair awr arall ar-lein, a bydd rhai ohonynt yn digwydd cyn y cyfarfod cyntaf.
Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.
Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.
Maes Llafur:
- Ymerodraethau Hynafol: O Akkadia i Rufain.
- Ymerodraethau Canoloesol a Dadeni: Ewrop a'r 'Byd Newydd'.
- Pwerau Mawr a Llywodraethau’r Byd Newydd yn y 19eg, 20fed a'r 21ain ganrif (yr Almaen, Prydain, America a Rwsia).
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:
- adolygiad beirniadol byr
- traethawd 1000 gair.
Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl ynghylch cryfderau a’r meysydd i’w gwella, ar gyfer y ddau ddarn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
- Mazower, M., Hitler’s Empire: How the Nazis Ruled Europe (New York: Penguin, 2008).
- Pagden, A., Lords of All the World: Ideologies of Empire in Spain, Britain and France, c.1500-1800 (New Haven and London: Yale, 1995).
- Podany, A., The Ancient Near East: A Very Short Introduction (Oxford: Oxford University Press, 2014).
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.