Ewch i’r prif gynnwys

Hablemos de cultura: arte, cine y literatura

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Susanna Echaves
Côd y cwrs SPA24A5558A
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Este curso está orientado a alumnos de Español de nivel avanzado.

El objetivo de este curso es mejorar la competencia del idioma al mismo tiempo que los alumnos obtienen nuevos conocimientos sobre temas culturales  de España y Latinoamérica.

En concreto exploraremos el arte, el cine y la literatura de algunos países hispanohablantes. Pare este curso se utilizará variedad de recursos como recortes de prensa, lecturas, películas, noticias de televisión y documentales.

Anelir y cwrs hwn at Fyfyrwyr Sbaeneg Uwch.

Nod y cwrs hwn yw gwella hyfedredd myfyrwyr yn yr iaith, tra’u bod nhw’n ennill gwybodaeth newydd am bynciau diwylliannol sy’n gysylltiedig â Sbaen ac America Ladin.

Yn benodol, byddwn ni’n trin a thrafod celf, sinema a llenyddiaeth ambell wlad Sbaeneg ei hiaith.

Ar gyfer y cwrs hwn, byddwn ni’n defnyddio amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys erthyglau papur newydd, llyfrau, ffilmiau, newyddion teledu a rhaglenni dogfen.

Bydd y pynciau’n cael eu cyflwyno yn y dosbarth a bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ymarfer eu sgiliau iaith lafar ac ehangu eu geirfa drwy drafodaeth ac ymarferion sgwrsio.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymarfer a gwella eu cysyniadau gramadegol, eu geirfa a’u sgiliau llafar drwy weithgareddau llafar ac ysgrifenedig a gyflwynir yn y dosbarth.

I bwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr lefel uwch sy'n dymuno gwella eu sgiliau llafar a gwrando yn Sbaeneg. Addysgir y cwrs drwy gyfrwng y Sbaeneg.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Portffolio gwaith cwrs a chymryd rhan yn y dosbarth. Mae ein hasesiadau’n hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg. Mae ein dulliau’n ceisio rhoi hyder i chi, ac rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn addas i oedolion prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.