Ewch i’r prif gynnwys

Breninesau yn Fyd-eang

Hyd 6 cyfarfod wythnosol ar-lein Yn ogystal â 6 awr anghydamserol ar-lein
Tiwtor Dr Charlotte Pickard
Côd y cwrs HIS24A5523A
Ffi £264
Ffi ratach £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Beth oedd rôl breninesau yn y byd cyn-fodern?

Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r syniad o fod yn frenhines, trwy gyfres o astudiaethau achos sy'n cyflwyno ysgolheictod diweddar bywiog, gan roi menywod brenhinol yn eu safle haeddiannol drachefn o ran bod yn arweinwyr mewn cymdeithasau cyn-fodern led-led y byd.

Byddwn yn dysgu am rolau breninesau o ran bod yn famau a breninesau cydweddog oedd yn gyfrifol am barhad llinellau brenhinol, ond yr un mor bwysig, o ran bod yn ffigurau gwleidyddol cryf, hyd yn oed yn deryniaid eu hunain, ac yn ffigyrau amlwg o ran crefydd a diwylliant. Fe fyddwn ni hefyd yn edrych ar y ffyrdd mae'r breninesau hyn wedi cael eu cofio a'u portreadu mewn diwylliant modern. Wrth fabwysiadu ymagwedd fyd-eang, byddwn yn cymharu ac yn cyferbynnu breninesau cyn-fodern o bob cwr o'r byd, gan geisio deall eu safle o fewn eu diwylliannau eu hunain.

Wrth wneud hynny, byddwn hefyd yn archwilio dulliau modern o astudio rôl breninesau, ac ystod eang o ddeunydd ffynhonnell ysgrifenedig a diwylliant materol sydd wedi goroesi, er mwyn deall pŵer y frenhines yn y byd cyn-fodern.

Dysgu ac addysgu

The module will be delivered through six asynchronous lectures and six two-hour online evening

Cyflwynir y modiwl dros chwe darlith anghydamserol a chwe seminar dwy awr ar-lein gyda'r nos.

Yn rhan o’r seminarau hyn bydd trafodaeth grŵp a gweithgareddau, a fydd yn galluogi myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr hefyd ddarllen deunydd perthnasol wedi’i argraffu a defnyddio hynny’n sail ar gyfer cyfrannu yn y dosbarth.

Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod a’r darlithoedd eu hunain.

Maes Llafur:

  1. Deall Rôl Breninesau yn y Byd Cyn-Fodern
  2. Magu Plant Brenhinol: Breninesau yn Famau
  3. Breninesau Cydweddog: Rôl y Wraig Frenhinol
  4. Breninesau yn Teyrnasu: Ffigyrau Brenhinol fu’n Llywodraethu
  5. Breninesau a Diwylliant: Nawdd a Duwioldeb
  6. Ailasesu o ran Astudio Rôl Breninesau Canoloesol

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • dadansoddiad o ffynhonnell fer
  • traethawd 1000 gair

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Beem, C., Queenship in Early Modern Europe (London: Bloomsbury, 2019).
  • Earenfight, T., Queenship in Medieval Europe (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2013).
  • Walthall, A., Servants of the Dynasty: Palace Women in World History (Berkeley: University of California Press, 2008).
  • Woodacre, E. (ed.), A Companion to Global Queenship (Leeds: Arc Humanities Press, 2018).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.