Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg i Ddechreuwyr – Cam A (Dwywaith yr wythnos)

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nod y cwrs hwn yw rhoi sylfaen i chi o ran strwythurau gramadegol elfennol Almaeneg, a hynny er mwyn i chi allu cyfathrebu ar lefel sylfaenol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a sefyllfaoedd sy’n hanfodol ar gyfer goroesi.

Er bod y pwyslais ar siarad, byddwch hefyd yn dysgu rhagor o strwythurau gramadegol a phatrymau brawddegau, sy'n hanfodol ar gyfer gwneud cynnydd pellach mewn Almaeneg.  Byddwch yn dysgu darllen testunau, llythyrau a negeseuon sylfaenol, deall deialogau dilys, a llunio eich deialogau eich hun trwy ymarferion grŵp a/neu waith pâr yn ystod y wers.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n ddechreuwyr llwyr yn yr iaith Almaeneg, sy'n dymuno gallu cynnal sgwrs sylfaenol wrth deithio i’r Almaen, Awstria a’r Swistir. O ran Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer ieithoedd (Goethe-Zertifikat), mae’r cwrs hwn, ynghyd â Speaking German-Beginners, yn paratoi ymgeiswyr ar gyfer A1.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Yr elfen bwysicaf o’r asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu, sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs.

Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Spektrum A1, Penodau 1-6

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.