Ewch i’r prif gynnwys

Anturiaethau Pellach mewn Ffuglen Wyddonol a Ffantasi

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Gan adeiladu ar y cysyniadau allweddol a archwiliwyd yn Ysgrifennu Ffuglen Wyddonol a Ffantasi, bydd y cwrs hwn yn datblygu ymhellach eich dealltwriaeth o rai o'r awduron ffuglen wyddonol a ffantasi mwyaf dylanwadol hyd yn hyn.

Bydd y cwrs yn archwilio sut mae cymeriad yn cael ei greu, gan roi sylw arbennig i adroddwyr annibynadwy a'r 'dynion drwg', a bydd yn archwilio cyfuno genres eraill (comedi, arswyd, gothig) â thestunau ffuglen wyddonol a ffantasi.

Byddwch yn dysgu sut i fireinio eich sgiliau adeiladu byd ac osgoi gorlwytho gwybodaeth. Ymhlith yr awduron a drafodir mae Terry Pratchett, J. R. R Tolkien, Douglas Adams, Octavia Butler, Aldous Huxley, Ursula Le Guin ac NK. Jemisin.

Gellir astudio'r cwrs fel dilyniant i CE5432 Ysgrifennu Ffuglen Wyddonol a Ffantasi neu fel opsiwn annibynnol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau.

Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Mae’n debygol y bydd y gweithdai’n cynnwys:

  • Y gwahaniaeth rhwng ffuglen wyddonol a ffantasi
  • Sut i osgoi esboniadau diflas a gorlwytho gwybodaeth
  • Sut i gyfuno adeiladu byd â chymeriadau a phlot
  • Sut i ddatgelu manylion y byd yn ddramatig trwy weithredoedd ac ymatebion
  • Rôl ymddygiad arferol wrth seilio'r rhyfeddol
  • Hunaniaeth, amser, newid, ymwybyddiaeth, y dynol, yr ôl-ddynol, yr estron, hanes gwrth-ffeithiol, rhith-realiti, ac efelychiad
  • Adolygu, adborth, a myfyrio.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.

Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysgu. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.

Sail yr asesiad fydd portffolio o ysgrifennu ffuglen wyddonol a/neu Ffantasi yn cynnwys eich gwaith gorau a gynhyrchwyd yn y modiwl hwn (tua 2000 o eiriau).

Gall y portffolio hwn gynnwys sawl darn creadigol ar wahân, neu un darn o ysgrifennu estynedig, gyda chaniatâd eich tiwtor ymlaen llaw. Bydd elfen fyfyriol i'r portffolio.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd pob wythnos yn seiliedig ar destun penodol. Mae enghreifftiau mynegol yn cynnwys:

  • Ursula Le Guin Earthsea (2012)
  • N. K. Jeminsin The City We Became (2021)
  • Douglas Adams Life, The Universe and Everything (2020)
  • Octavia Butler Dawn: Lilith’s Brood (2022)
  • Aldous Huxley Brave New World (2007)
  • Margaret Atwood The Testaments (2020)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.