Ffrangeg: Sgwrsio Canolradd
Hyd | Dydd Llun 7 Gorffennaf i ddydd Gwener 11 Gorffennaf 2025 | |
---|---|---|
Tiwtor | Romina Ciraci | |
Côd y cwrs | FRE24A4184A | |
Ffi | £157 | |
Ffi ratach | £135 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Bydd y cwrs dwys hwn yn eich galluogi i ymarfer ac atgyfnerthu eich sgiliau iaith a siarad Ffrangeg yn hyderus.
Cewch y cyfle i ymarfer mewn grwpiau bach a gwneud ymarferion chwarae rôl o sefyllfaoedd y byddwch yn dod ar eu traws mewn gwledydd lle siaredir Ffrangeg. Bydd y cwrs yn cynnwys adolygiad o’r gwahanol amserau o’r ferf fel gorffennol, perffaith, amherffaith a gorberffaith, ond ymarfer y gwahanol sgiliau yw prif nod y cwrs.
Pynciau:
- hamdden
- teithio
- chwaraeon
- gwyliau
- amgylchedd
Mae cyn-gofrestru yn hanfodol
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs
Gwaith cwrs ac asesu
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.