Ffrangeg i Ddechreuwyr Cam A
Hyd | 28 o gyfarfodydd wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Tutor to be confirmed | |
Côd y cwrs | FRE24A2607A | |
Ffi | £445 | |
Ffi ratach | £356 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Dysgwch sut i siarad Ffrangeg ar lefel sylfaenol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a sefyllfaoedd sy’n hanfodol ar gyfer goroesi.
Mae'r cwrs hwn yn darparu’r myfyrwyr â dealltwriaeth sylfaenol o strwythurau elfennol Ffrangeg. Bydd y pynciau canlynol yn sail i’r cwrs: eich hunan ac eraill, ffrindiau a theulu, pethau i'w gwneud, yn y dref, trenau, awyrennau a cheir, adref ac o amgylch.
Mae'r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr llwyr neu fyfyrwyr sydd ag ychydig iawn o Ffrangeg.
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Gwaith cwrs ac asesu
Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.
Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.
Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.
Deunydd darllen awgrymedig
Y llyfr ar gyfer y cwrs hwn yw: BBC Talk French (Llyfr a CD) – Cyhoeddwyd ar 09/02/2006.
Ar gyfer astudiaethau personol, gallwch ddod o hyd i ddeunydd ychwanegol yn:
- Breakthrough French 1, S. Rybak, Palgrave Macmillan, 2003
- Grammaire Progressive du Francais, M. Gregoire, CLE International, 1997.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.