Ewch i’r prif gynnwys

Fframio'r Gothig: Portreadau mewn Llenyddiaeth

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Suzie Good
Côd y cwrs LIT24A5585A
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Boed ail-weithio’r myth Faustaidd drwy lens Oes Fictoria yn The Picture of Dorian Gray gan Oscar Wilde, y nofel Orlando gan Virginia Woolf neu The Moor's Last Sigh gan Salman Rushdie, bydd y cwrs hwn yn trin a thrafod sut mae nodweddion portreadau wedi galluogi awduron i symboleiddio'r gwrthdaro rhwng y byd go iawn a'r byd metaffisegol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp bach.

Bydd y cwrs yn cynnwys ymweliad â'r adran bortreadau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Wythnos 1: Beth yw’r Gothig? Dechrau: The Castle of Otranto, Horace Walpole (1764)

Wythnos 2: Y Gothig a’r ‘arall’: Jane Eyre, Charlotte Brontë

Wythnos 3: Nofelydd a bardd Saesneg (1848)

Wythnos 4: Rhagor am Jane Eyre...

Wythnos 5: Y Gothig a’r ‘arall’:  Dr Jekyll a Mr Hyde, Robert Louis Stevenson (1886)

Wythnos 6: Wythnos ddarllen

Wythnos 7: Y Gothig a Bwystfilod: Gwyddoniaeth a Rhywioldeb. Gwyddoniaeth - Frankenstein, Mary Shelley (1818)

Wythnos 8: Y Gothig a Bwystfilod: Rhywioldeb Dracula, Bram Stoker (1897)

Wythnos 9: Y Gothig a’r seicolegol: Adroddwyr Annibynadwy -The Tell Tale Heart, Edgar Allen Poe (1843)

Wythnos 10: Y Gothig a’r seicolegol: Everyday Nightmares - Rebecca, Daphne du Maurier (1938)

Wythnos 11: Parhad a sesiwn holi ac ateb i gloi.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, mae’n rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.

Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ni ei dangos gerbron arholwyr allanol er mwyn inni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Diben ein dulliau yw ceisio cynyddu eich hyder, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch chi’n cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen unrhyw beth ymlaen llaw. Os hoffech chi ddarllen deunyddiau cyn i'r cwrs ddechrau, dyma ambell awgrym:

  • The Moor’s Last Sigh, Salman Rushdie(Llundain, 1996).
  • The Picture of Dorian Gray, Oscar Wilde, (Llundain, 2010, cyhoeddwyd gyntaf yn 1891).
  • Orlando: A Biography, Virginia Woolf, (Rhydychen, 2019, cyhoeddwyd gyntaf yn 1928).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.