Ewch i’r prif gynnwys

Filière Littérature

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Cette année, nous étudierons entre autres, L’homme aux cercles bleus de Fred Vargas  (éditions J’ai lu), Eldorado de Laurent Gaudé  (éditions J’ai lu) 2084 de Boualem Samsal  (éditions Folio).

Avec ce cours, vous développerez votre connaissance du monde littéraire contemporain français. Vous aurez de nombreuses discussions sur les oeuvres choisies afin de développer vos compétences d’analyse critique ainsi que votre champ linguistique français. Ce cours est entièrement enseigné en français (niveau DELF B2 and above).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr a chanddynt sgiliau iaith datblygedig (Safon Uwch neu uwch) sy'n gallu cynnal sgwrs gyffredinol yn Ffrangeg. Addysgir y cwrs drwy gyfrwng y Ffrangeg.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, mae angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u hennill neu eu gwella. Mae’n rhaid i rywfaint o hyn fod ar ffurf y gellir ei dangos i arholwyr allanol fel y gallwn fod yn hollol siŵr bod safonau wedi’u bodloni ar draws yr holl gyrsiau a phynciau.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol ond efallai y byddwch yn cael profion dosbarth. Mae ein hasesiadau’n hyblyg i weddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Y peth pwysicaf am asesu yw y dylai wella’r hyn rydych chi’n ei ddysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder ac rydym yn ymdrechu'n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.