Daeareg Maes ar Ynys Môn
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Hyd | Dydd Mercher 22 Mehefin i ddydd Sadwrn 25 Mehefin 2022 | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Nick Chidlaw | |
Côd y cwrs | SCI21A5443A | |
Ffi | £175 | |
Ffi ratach | £140 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) |
Mae daeareg Ynys Môn o arwyddocâd rhyngwladol, gan ei bod wedi'i dynodi'n 'Geoparc Byd-eang' gan UNESCO.
Mae llawer o'r ynys yn cynnwys creigiau Cyn-Gambriaidd - Cambriaidd a ffurfiwyd yn ystod gwrthdrawiad plât tectonig, ac maent yn cynnwys 'blueschist' nas gwelir yn aml mewn mannau eraill yn Ynysoedd Prydain, a thirlithriadau tanfor sy'n cynnwys blociau dros 1 km o faint.
Yn ddiweddarach, gwagiwyd mwynau copr ym Mynydd Parys, a fanteisiwyd arnynt ers yr Oes Efydd. Mae Hen Dywodfaen Coch sy'n cynnwys priddoedd hynafol, a chreigiau ffosilifferaidd o'r oes Garbonifferaidd, hefyd yn bresennol.
Mae'r cwrs wedi'i amseru i sicrhau'r mynediad mwyaf diogel i draethau. Ni ragdybir unrhyw wybodaeth flaenorol o'r ardal na daeareg. Noder y bydd angen ichi wneud eich trefniadau teithio a llety eich hunain, gydag amser a lleoliad cwrdd i'w cadarnhau.
Dyddiadau: Dydd Sadwrn 22 Mehefin i ddydd Mawrth 25 Mehefin 2022.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Unrhyw un sydd â, neu sy'n dymuno datblygu, diddordeb mewn daeareg ymarferol.
Dysgu ac addysgu
Mae’r taith maes yn para 4 diwrnod, gyda phwyslais ar arsylwi ymarferol a chydnabod nodweddion arwyddocaol.
20 o oriau cyswllt.
Bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion gwyddoniaeth daearegol, a daeareg (gan gynnwys tirffurfiau) y maes astudio yn gyntaf, drwy wneud darllen cefndirol o’r daflen wybodaeth a anfonir atynt cyn y cwrs (gan gynnwys testun, mapiau a brasluniau anodedig disgrifiadol); bydd llawer o’r agweddau a ddisgrifir yn y daflen wybodaeth wedyn yn cael eu dangos iddynt yn y maes – a bydd y daflen wybodaeth ar gael iddynt bob amser i gyfeirio ati.
Bydd sgiliau maes yn cael eu haddysgu yn ystod y cwrs, gan gynnwys sut i arsylwi a chofnodi, sut i samplu sbesimenau cyfeirio da, a bod yn ymwybodol o agweddau allweddol o ran cadwraeth daearegol a diogelwch, a gweithredu arnynt.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Deunydd darllen awgrymedig
I'w darparu gan y tiwtor.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.