Daeareg Maes o Fryniau'r Malvern i Fryniau'r Cotswold
Hyd | Pedwar diwrnod yn olynol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Nick Chidlaw | |
Côd y cwrs | SCI24A5284A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Canol dinas Caerdydd (lleoliad i'w gadarnhau) |
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr o’r wyddoniaeth ddaearegol sy’n cael ei defnyddio ar waith maes, gan gyfeirio at y dreftadaeth ddaearegol gyfoethog ledled Dyffryn Hafren, a hynny’n cynnwys Bryniau’r Malvern a Bryniau’r Cotswolds.
Yn y modiwl hwn, bydd cyfle i astudio'r ffiniau rhwng dwy ran o ddaeareg Ynysoedd Prydain sy’n wahanol yn sylfaenol: y creigiau hŷn a geir yn y gorllewin a’r gogledd sy’n galetach ac yn fwy cymhleth yn strwythurol, a'r creigiau iau a geir yn bennaf yn y de a’r dwyrain sy’n feddalach ac yn symlach yn strwythurol.
Nid oes rhaid meddu ar wybodaeth flaenorol o ddaeareg nac o'r maes astudio hwn yn gyffredinol.
Dysgu ac addysgu
Bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion gwyddoniaeth ddaearegol, a daeareg (gan gynnwys tirffurfiau) y maes astudio yn gyntaf, drwy wneud darllen cefndirol o’r daflen wybodaeth a anfonir atynt cyn y cwrs (gan gynnwys testun, mapiau a brasluniau anodedig disgrifiadol); bydd llawer o’r agweddau a ddisgrifir yn y daflen wybodaeth wedyn yn cael eu dangos iddyn nhw yn y maes – a bydd y daflen wybodaeth ar gael iddyn nhw bob amser i gyfeirio ati.
Bydd sgiliau maes yn cael eu haddysgu yn ystod y cwrs, gan gynnwys sut i arsylwi a chofnodi, sut i samplu sbesimenau cyfeirio da, a bod yn ymwybodol o agweddau allweddol o ran cadwraeth ddaearegol a diogelwch, a gweithredu arnynt.
Gwaith cwrs ac asesu
Papur cwestiwn fydd yn cael ei osod ar ddiwedd y cwrs. Caiff y papur hwn ei gynllunio er mwyn iddo fod yn rhwydd i’w gwblhau, ond hefyd bydd yn adlewyrchu ystod y pwnc, yn rhoi prawf ar ddealltwriaeth y myfyriwr o'r daflen wybodaeth cyn y cwrs, yn ogystal â'r hyn a ddisgrifiwyd iddyn nhw yn ystod y daith maes.
Deunydd darllen awgrymedig
- Whitten with Brooks. 1974. A Dictionary of Geology. Penguin.
- Kearey. 1996. The New Penguin Dictionary of Geology. Penguin.
- Mondadori. 1977. The Macdonald Encyclopaedia of Rocks and Minerals. Macdonald.
- Geological Museum. 1978. Britain before Man. HMSO.
- British Museum (Natural History). 1969. British Palaeozoic Fossils. London.
- British Museum (Natural History). 1972. British Mesozoic Fossils. London.
- Fitter & Ray. The Seashore. Collins.
- Hunter & Easterbrook. 2004. The Geological History of the British Isles. The Open University.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.